Cynllun 'arloesol' i greu unedau i bobl ddigartref yng Nghaernarfon

Argraff artistFfynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad ydy creu 37 o fflatiau ar y safle

GanLiam Evans
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mi allai cynllun yng Nghaernarfon i drosi hen swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn unedau i bobl ddigartref fod yn "arloesol", yn ôl Cyngor Gwynedd.

Cafodd Swyddfeydd y Goron, sydd wedi bod yn wag ers 2018, eu prynu gan yr awdurdod yn 2024.

Y bwriad ydi sefydlu 37 uned breswyl a fyddai'n cynnig "cartrefi safonol" wrth i bobl aros am lety parhaol.

Mae disgwyl i'r gwaith o'u hadnewyddu gostio rhwng £12m-£14m.

Delwedd Ffynhonnell y llun, CYNGOR GWYNEDD
Disgrifiad o’r llun,

Mae cannoedd o bobl wedi cofrestru'n ddigartref gyda Chyngor Gwynedd mewn blynyddoedd diweddar

Rhwng 2024-25 mi wnaeth 956 o bobl gofrestru'n ddigartref gyda Chyngor Gwynedd, gyda 205 o aelwydydd yn byw mewn llety argyfwng anaddas fel gwestai neu wely a brecwast.

Mae 543 o ymgeiswyr hefyd ar restr am dai cymdeithasol yn ardal Caernarfon.

Yn ôl y Cynghorydd Paul Rowlinson, sy'n ddeilydd portffolio Tai ar Gyngor Gwynedd, mae'r cynllun yn gwneud defnydd o hen adeilad tra hefyd yn rhan o'r ateb i broblemau digartrefedd y sir.

"Mae o'n arloesol," meddai.

"Mae'r swyddfa wedi bod yn wag ers bron i ddegawd rŵan a 'di o ddim yn ddel iawn, mae 'na goncrit ym mhob man.

"Mae 'na storïau o agweddau gwrthgymdeithasol yn digwydd fel sydd yn aml yn digwydd mewn adeiladau gwag felly mi fydd yn adfywio tre Caernarfon."

Cynghorydd Paul Rowlinson
Disgrifiad o’r llun,

Disgrifiodd y Cynghorydd Paul Rowlinson y cynlluniau fel rhai "arloesol"

Y bwriad ydy codi 25 o fflatiau un ystafell wely, 10 fflat dwy ystafell wely a dau o fflatiau gyda thair ystafell wely.

Tra bod rhai mewn cartrefi cyfagos yn poeni am effaith y datblygiad, mynnu mae'r cyngor na fydd unrhyw un gydag anghenion dwys yn cael eu cartrefu yno.

Mi fyddai cyfleusterau chwarae i blant hefyd yn yr ardd.

Heddyr Gregory
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Heddyr Gregory fod "angen i gynghorau fod yn ddyfeisgar"

Gyda bron i 11,000 o bobl drwy Gymru yn byw mewn llety dros dro ac wedi cofrestru'n ddigartref mae Shelter Cymru yn dweud bod angen i gynghorau feddwl yn greadigol.

"Mae'n rhaid i gynghorau fod yn ddyfeisgar," meddai Heddyr Gregory o'r elusen.

"Mae'n rhaid edrych ar y stoc tai sydd ganddyn nhw ac ar y stoc o adeiladau sydd ganddyn nhw a meddwl be' di'r defnydd gorau posib allwn i wneud o rhain er mwyn lleddfu rhywfaint ar yr argyfwng tai a darparu llefydd i bobl fyw."

Mae gan bobl yng Nghaernarfon tan 11 Mawrth i fynegi barn ar y cynllun hwn yn ardal Penrallt.

Os caiff ei gymeradwyo y disgwyl yw y gallai gymryd hyd at 18 mis i gwblhau'r gwaith.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.