Arian ar gyfer 'ailddatblygiad mwyaf erioed' Rheilffordd Talyllyn

Bydd y datblygiadau yn cynnwys llety newydd i wirfoddolwyr, a hwb cymunedol er mwyn denu ysgolion a grwpiau lleol
- Cyhoeddwyd
Bydd prosiect i ailddatblygu cyfleusterau yn Rheilffordd Talyllyn yn symud i'r camau nesaf, ar ôl sicrhau arian grant gwerth bron i £3.7m gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Fe gafodd y rheilffordd ei hadeiladu'n wreiddiol ym 1864 i wasanaethu chwarel lechi Bryneglwys.
Yn ddiweddarach, yn 1951 daeth i ddwylo gwirfoddolwyr a'i sefydlu fel rheilffordd gadwraethol gyntaf y byd.
Ymhlith gwirfoddolwyr nodedig y rheilffordd roedd y Parch Wilbert Awdry - awdur straeon Tomos y Tanc.
Cymerodd Awdry ysbrydoliaeth ar gyfer rheilffordd ffuglennol Skarloey o Dalyllyn, a seiliodd sawl cymeriad ar ei locomotifau gwreiddiol.
Y bwriad yw defnyddio'r arian i gynnal uwchraddiadau peirianneg mawr, creu gofodau gweithdy estynedig a chyfleusterau gwaith coed gwell i gynnal y cerbydau hanesyddol drwy gydol y flwyddyn.

Mae'n ddatblygiad "cyffrous iawn" yn ôl Goronwy Rees, sy'n un o'r gwirfoddolwyr
Mae Rheilffordd Talyllyn wedi bod yn atyniad treftadaeth ers 75 mlynedd, ac yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru UNESCO.
Gwirfoddolwyr sy'n gwneud y mwyafrif o'r gwaith, ac mae tua 450 i gyd, gyda rhai yn teithio o wledydd fel yr Unol Daleithiau, Denmarc, Awstralia a Japan.
Mae tua 100 o'r gwirfoddolwyr, fel Goronwy Rees, yn byw yn lleol.
Mae'n frwd am y rheilffordd gan fod ei hen dad-cu yn arfer gweithio yn chwareli Abergynolwyn.
"Mae cynnal y peirianneg yn broses gostus iawn. Mae'r adeiladau lle mae'r gwaith yna'n cymryd lle yn rhy hen a bellach ddim yn addas i bwrpas," meddai.
"Mae rhannau o'r gwaith yn dal i gael ei gynnal yn yr adeiladau a gweithdai gwreiddiol.
"Dyma'r prosiect ailddatblygu mwyaf yn hanes y rheilffordd, ers i'r gwirfoddolwyr cyntaf ymgymryd â'r gwaith.
"Mae'n gyffrous iawn."
'Eiconig i'r ardal'
Bydd llety newydd i wirfoddolwyr sydd, yn ôl Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn "cefnogi rhaglen wirfoddolwyr sy'n tyfu a phrentisiaethau peirianneg".
Bydd hwb cymunedol hefyd yn cael ei sefydlu er mwyn denu ysgolion a grwpiau lleol.

Yn ôl Beth Lawton, bydd yr arian yn sicrhau bod y rheilffordd yn parhau am flynyddoedd i ddod
Dywedodd Beth Lawton, sy'n cynrychioli Bro Dysynni ar Gyngor Gwynedd: "'Da ni angen adnoddau modern er mwyn cadw'r dreftadaeth.
"Mae o mor bwysig i'r ardal i gyd, dim jyst Tywyn.
"Mae'r rheilffordd yn eiconig i'r ardal - clywed y trên yn mynd i fyny y cwm.
"Mae hwn yn mynd i wneud gwahaniaeth mawr ac yn mynd i sicrhau y bydd y rheilffordd yma am flynyddoedd i ddod."
Cyfanswm gwerth y prosiect ailddatblygu yw £5.5m, ac mi fydd gwirfoddolwyr yn Rheilffordd Talyllyn yn gobeithio codi'r arian trwy gyllido torfol ac arian grant.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2023

- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2025
