Merch sydd ag alergedd at yr oerfel yn gobeithio am 'fywyd normal'

Mae corff Amber Woodward yn ymateb os yw'r tymheredd yn gostwng yn is na 12 gradd
- Cyhoeddwyd
Mae merch 16 oed o'r gogledd sydd ag alergedd at yr oerfel, ac sy'n cael brech pan mae'r tymheredd yn is na 12 gradd, yn gobeithio y bydd ymchwil newydd yn ei helpu i fyw "bywyd normal".
Yn 2022 fe ddechreuodd Amber Woodward, sy'n byw yn Abergele, Sir Conwy, gael brech goch oedd yn cosi pryd bynnag roedd hi mewn tymheredd oer.
I ddechrau roedd ei meddyg teulu'n awgrymu mai ymateb i lygredd aer oedd hi, ond ar ôl i Amber ymchwilio i'w symptomau daeth o hyd i alergedd prin o'r enw cold urticaria.
Aeth yn ôl at y meddyg ychydig wythnosau'n ddiweddarach a chafodd ei chyfeirio at ddermatolegydd a gadarnhaodd bod ganddi'r cyflwr prin yma yn 2023.
Galw am wella gwasanaethau i bobl ag alergeddau
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2025
Alergedd: 'Brwydr' rhieni am ginio ysgol cydradd
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2023
'Dylai pawb ddysgu sut i ddefnyddio EpiPen'
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2022
Er iddi gael gwrth-histaminau (antihistamines) dyw ei chyflwr ddim wedi gwella.
Mae ei chroen yn ymateb hyd yn oed pan mae gwynt oer yn yr haf neu wrth iddi ddod allan o ddŵr - sy'n arwain ati'n gwrthod gwneud rhai pethau gyda'i ffrindiau.
Mae'n aml yn teimlo'n annifyr yn ei gwaith, fel gweinyddes rhan-amser, ac yn yr ysgol pan mae ei chroen yn ymateb wrth iddi gerdded yn yr awyr agored.
Mae nawr yn bwriadu cael chwistrelliadau o wrth-histaminau bob pedair wythnos ac mae'n gobeithio y bydd ymchwil yn y dyfodol yn rhoi'r cyfle iddi wneud "pethau normal".
'Does dim gwella'
"Does dim gwella, a dwi bob amser yn ofnus achos mae llawer o bobl wedi dweud eu bod wedi cael sioc anaffylactig ar hap," meddai Amber.
"Mae angen i mi wisgo leggings o dan fy nillad drwy'r amser really, heblaw am yn yr haf.
"Dwi just isio gallu gwneud pethau normal," meddai, "a chael bywyd normal heb orfod poeni am y peth."

Mae'r cyflwr wedi effeithio yn fawr ar sawl agwedd o fywyd Amber
Dechreuodd Amber ymateb yn wahanol i'r oerfel yn 2022 a byddai brech yn ymddangos ar rannau o'i chorff a byddai'n cosi'n ddifrifol.
Er i'w meddyg teulu amau bod ganddi'r cyflwr prin fe gafodd ei chyfeirio at ddermatolegydd, ond wrth iddi aros am apwyntiad roedd y frech yn dal i ymddangos bron yn ddyddiol.
Dechreuodd ei mam, Dawn Woodward, "boeni'n fawr".
Dywedodd Amber ei bod wedi cael "sioc" gan ei fod yn alergedd prin ond ei bod yn falch i wybod beth oedd yn ei achosi.
Mae'n falch hefyd o gael "meddyginiaeth gwrth-histamin ar ei gyfer" ond ei bod yn enwedig o "hapus bod rhywun yn credu fi".
'Fy ffrindiau bob amser yn trio cynhesu fi'
Yn anffodus dyw ei symptomau heb wella ers iddi gymryd gwrth-histeminau.
Ond mae'n gobeithio cael chwistrelliadau bob pedair wythnos nawr mewn ymgais i helpu ei symptomau.
"Mae fy ffrindiau allan o hyd, ac maen nhw bob amser yn gwahodd fi ond dydw i ddim really'n gallu mynd allan... felly dwi'n teimlo 'mod i'n cael fy ngadael allan.
"Ond mae fy ffrindiau bob amser yn trio cynhesu fi, neu mynd i nôl siocled poeth," meddai.
Wrth edrych tua'r dyfodol mae Amber yn gobeithio y bydd llawer mwy o ymchwil i'r mater ac mae'n gobeithio y bydd mwy o feddyginiaethau ar gael.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.