Athletwyr benywaidd yn derbyn negeseuon 'rhyfedd a sarhaus' ar-lein

Gwennan HarriesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyn-chwaraewr Gwennan Harries yn cofio cael ei stereoteipio yn ystod ei gyrfa

GanBeth Alaw Williams
Newyddion BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae'r cyn-beldroediwr Gwennan Harries yn credu bod trais ar-lein tuag at athletwyr wedi gwaethygu dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae athletwyr benywaidd sydd wedi cynrychioli Cymru'n rhyngwladol wedi siarad gyda BBC Cymru am eu profiadau nhw o dderbyn negeseuon "sarhaus" a "rhyfedd" ar-lein am eu hedrychiad.

Er y bu hi'n flwyddyn hanesyddol i chwaraeon menywod yng Nghymru yn 2025, mae arolwg gan Women in Sport yn awgrymu bod nifer y merched sy'n breuddwydio am fod yn athletwyr proffesiynol wedi gostwng i'w lefel isaf ers 2020.

Mae'r elusen yn dweud fod hyn oherwydd stereoteipiau rhyw.

Nawr yn sylwebydd ac yn athrawes ysgol uwchradd, mae Gwennan yn credu bod gwaith i'w wneud o hyd er mwyn tynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael i fenywod ym myd chwaraeon.

'Geiriau yn brifo'

Mae Gwennan, enillodd dros 50 o gapiau rhyngwladol dros Gymru, yn cofio cael ei galw'n ddyn, a chael ei stereoteipio yn ystod ei gyrfa.

Ond mae hi'n credu bod y sefyllfa yn waeth i athletwyr benywaidd heddiw oherwydd datblygiad cyfryngau cymdeithasol.

"Mae wedi gwaethygu, yn sicr, dros y blynyddoedd diwethaf - y degawd diwethaf," meddai.

"Mae geiriau yn brifo ac maen nhw'n aros efo lot o bobl.

"Fi'n credu bod merched, yn anffodus, yn llawer mwy sensitif i hyn, falle oherwydd y ffordd mae cymdeithas yn pitchio nhw lan yn erbyn ei gilydd."

Georgia EvansFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Georgia Evans dderbyn sylwadau "sarhaus" ar-lein yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd yn 2025

Mae'r chwaraewr rygbi Georgia Evans wastad wedi gwisgo colur a rhubanau pinc yn ei gwallt tra'n chwarae - rhywbeth mae'n dweud sy'n helpu iddi anghofio am y camerâu sy'n ei dilyn ar y cae.

Er bod chwarae yng Nghwpan y Byd yn "freuddwyd" iddi, bu'n rhaid i Georgia rannu datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl derbyn negeseuon cas am ei hedrychiad, gyda rhai yn awgrymu mai dyna'r rheswm roedd y tîm yn colli.

"Oedd e ddim jest am ruban mawr pinc yn fy ngwallt, roedd e am y colur o'n i'n gwisgo, a sut o'n i'n trin o fel 'sioe ffasiwn'.

"Dwi 'di gweithio drwy fy mywyd i gyrraedd y lefel uchaf o rygbi, a nawr mae hynny'n cael ei gwestiynu oherwydd bo' fi'n gwisgo rubanau pinc yn fy ngwallt.

"Does gan y ffordd dwi'n edrych ddim byd i'w wneud gyda'r ffordd dwi'n chwarae."

Ar ôl iddi rannu'r datganiad yn amddiffyn ei hun, fe wnaeth Georgia dderbyn cefnogaeth gan bobl "ar draws y byd."

"O fewn awr, o'dd rhaid i fi roi fy ffôn i ffwrdd achos o'n i methu delio â'r peth," meddai.

'Dwi eisiau bod yn ddylanwad da'

Wedi cystadlu mewn gymnasteg yn y Gemau Olympaidd, mae Ruby Evans o Gaerdydd yn dweud bod ei hedrychiad "yr un mor bwysig" iddi â'r perfformiad ei hun.

"Os dwi'n cael diwrnod colur gwael, mae o am fod yn ddiwrnod gwael," meddai.

Ond os ydy hi'n cael hwyl arni gyda gwneud ei cholur, mae enillydd y fedal arian ym Mhencampwriaethau'r Byd y llynedd yn dweud ei fod "fel y teimlad gorau erioed".

Ruby EvansFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Ruby Evans fedal arian ym Mhencampwriaeth y Byd Gymnasteg fis Tachwedd

"Mae popeth yn disgyn i'w le - dwi wedi ymarfer am yr holl wythnosau, ac yna mae popeth yn mynd yn berffaith," meddai.

"Hyd yn oed os dyw e ddim yn berffaith, os dwi'n edrych yn dda, dwi'n meddwl 'o, mae'n iawn'."

Tra bod y rhan fwyaf o sylwadau mae Ruby yn derbyn yn rhai positif, mae hi wedi sylwi bod ei hedrychiad yn cael ei drafod ar-lein, gan gynnwys un adeg ble wnaeth hi ddim gwisgo lliw haul ffug mewn un gystadleuaeth.

"Fel arfer mae rhai dynion yn gallu bod reit ryfedd," meddai.

"Merched ifanc ydy fy nghynulleidfa i, felly os mae 'na sylwadau sydd 'chydig bach [yn amhriodol], dwi yn dileu nhw, felly dyw'r bobl sy'n dilyn fi am y gymnasteg ddim yn gweld yr ochr yna.

"Dwi jest eisiau [merched ifanc] i edrych lan ata i. Dwi eisiau bod yn ddylanwad da."

Gwennan Harries yn chwarae mewn cit EvertonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ogystal â chynrychioli Cymru, mae Gwennan Harries wedi ennill Cwpan yr FA gydag Everton

Mae arolwg gan elusen Women in Sport yn awgrymu bod nifer y merched sy'n breuddwydio am fod yn athletwyr proffesiynol wedi gostwng o 38% yn 2024 i 23% yn 2025.

Roedd gan 53% o fechgyn yr un freuddwyd.

Mae Gwennan Harries yn dweud bod hynny yn ei siomi, ac mae'n credu bod angen mwy o sylw ar y cyfleoedd sydd ar gael i fenywod o fewn chwaraeon.

"Y mwyaf o fenywod ysbrydoledig sydd ar y teledu yn dangos eu doniau nhw ac yn llwyddo, dwi'n teimlo fel bydd hynna'n bwydo lawr i'r genhedlaeth nesaf.

"Fel mae'r dywediad yn mynd - if you don't see it, you can't be it.

"Felly mae'n rili bwysig bod y cyfleoedd yno ar draws y chwaraeon yn weladwy iawn ac yn cael eu hysbysebu'n gyson, gyda'r bobl yna yn cael eu trin yn dda a'u parchu."

Cefn pen Georgia Evans yn dangos rhubannau pincFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Georgia Evans yn dal i wisgo rhubanau pinc yn ei gwallt tra'n chwarae

Mae Georgia Evans yn gobeithio bod yn ysbrydoliaeth i'r genhedlaeth nesaf o athletwyr - ac yn dal i wisgo rhubanau pinc yn ei gwallt.

"O'n i'n hoffi'r syniad bod y merched ifanc sydd falle'n cael yr un sylwadau wnes i, yn gallu gweld eich bo' chi ddim angen newid.

"Mae pawb 'da'r hawl i edrych unrhyw ffordd, i fod unrhyw ffordd, a'r peth am rygbi yw ei fod yn gynhwysol i bawb."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.