Arestio dyn wedi marwolaeth sydyn yn Noc Penfro

heddlu
  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn trin marwolaeth sydyn dyn, 85 oed, ar Ffordd Hawkstone yn Noc Penfro ddydd Gwener fel achos o lofruddiaeth.

Mae dyn yn ei 40au wedi'i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae'n parhau yn y ddalfa tra bod ymholiadau'r heddlu yn parhau.

Cafodd plismyn eu galw am oddeutu 13:30.

Dywed yr heddlu y bydd mwy o swyddogion yn yr ardal yn ystod y dyddiau nesaf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig