Dysgwr o America yn teithio i Gymru i sefyll arholiad Cymraeg

Jeff a'i wraig FranFfynhonnell y llun, Jeff Narvil
Disgrifiad o’r llun,

Jeff Narvil a'i wraig Fran o Mississippi

GanHolly HarrisonBBC WalesacIwan Arwel BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae barnwr o America sydd wedi dysgu Cymraeg wedi teithio i Gymru er mwyn sefyll arholiad yn yr iaith.

Mae Jeff Narvil o Jackson, Mississippi wedi treulio 14 mis yn dysgu Cymraeg, yn aml yn oriau man y bore.

Fe deithiodd i Gaerdydd ym mis Ionawr er mwyn sefyll arholiad Cymraeg, a oedd yn cynnwys darllen, gwrando, ysgrifennu ac arholiad llafar.

Dywedodd ei fod "wedi bod â diddordeb mewn dysgu ieithoedd eraill," gan egluro bod y Gymraeg yn apelio ato oherwydd ei bod yn cael ei siarad trwy ddewis, nid o reidrwydd.

JeffFfynhonnell y llun, Jeff Narvil
Disgrifiad o’r llun,

Jeff yn dysgu drwy ddarllen

Wrth edrych yn ôl dros yr 14 mis, dywedodd fod y profiad wedi bod yn heriol ond yn fuddiol a'i fod yn gobeithio cario mlaen i ddysgu'r iaith.

Mae Jeff eisoes yn gallu siarad Almaeneg, Sbaeneg, Ffrangeg a Gwyddeleg.

"Mae pawb sy'n siarad Cymraeg hefyd yn siarad Saesneg," meddai wrth BBC Radio Wales Breakfast.

"Nid oes rhaid i neb ei siarad, ond maen nhw'n gwneud hynny o gariad at eu diwylliant — ac roedd hynny'n hynod atyniadol i mi."

Dechreuodd astudio Cymraeg ddiwedd 2024 gan ddefnyddio apiau, llyfrau a chyrsiau ar-lein, ond roedd diffyg pobl i ymarfer gyda nhw yn America yn gwneud y broses yn anodd.

Ychwanegodd fod y gwahaniaeth amser yn her arall, gyda rhai cyrsiau ar-lein yn cael eu cynnal yn oriau mân y bore yn Mississippi.

"Dydy hynny jest ddim yn gweithio," meddai, gan egluro ei fod weithiau'n gorfod codi cyn 03:00 i gymryd rhan mewn gwersi.

"Byddai'n freuddwyd pe bawn i'n rhugl ac i bobl geisio dyfalu o ba ran o Gymru ro'n i'n dod," meddai.

Jeff a Fran yng NGhaernarfonFfynhonnell y llun, Jeff Narvil
Disgrifiad o’r llun,

Jeff a Fran yn ymweld â Chaernarfon

Ochr yn ochr â'r arholiad yng Nghaerdydd, teithiodd Jeff a'i wraig Fran ar draws y wlad, gan ymweld â chastell Caerffili, Tyddewi yn Sir Benfro, Betws-y-Coed yn Sir Conwy a Harlech yng Ngwynedd.

"Syrthiais i mewn cariad â Chymru pan nes i ymweld, ond mewn gwirionedd, ro'n i wedi dechrau dysgu Cymraeg cyn i mi weld y wlad yn iawn," meddai Jeff.

"Ro'n i'n falch nad oeddwn wedi cynllunio i aros yng Nghaerdydd drwy'r wythnos. "Ro'n i wir yn mwynhau'r trefi bach."

Cafodd hefyd y cyfle i ymarfer ei Gymraeg gyda phobl leol, gan gynnwys staff siopau a gweithwyr caffis, a dywedodd fod pobl wedi bod yn ei annog ac yn amyneddgar pan eglurodd ei fod yn dysgu'r iaith.

Mae Jeff yn gobeithio cael clywed os y bydd wedi pasio'r arholiad ym mis Mawrth.

"Hyd yn oed os ydw i'n methu, byddaf yn bendant yn dod yn ôl i Gymru," meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig