Heddlu'n ymchwilio i farwolaeth dyn yn Llandudno

Ffordd Nant-y-GamarFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad ar Ffordd Nant-y-Gamar fore Llun

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio i farwolaeth dyn 58 oed o Landudno.

Cafodd y llu eu galw i ddigwyddiad ar Ffordd Nant-y-Gamar toc wedi 10:00 fore Llun, yn dilyn adroddiadau bod pryderon am ddiogelwch dyn.

Fe gafodd ei gludo i'r ysbyty, ble bu farw'n ddiweddarach.

Cafodd dyn lleol ei arestio ar amheuaeth o ymosod mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ac mae bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu.

Mae'r llu yn dweud eu bod yn parhau i wneud ymholiadau er mwyn cadarnhau amgylchiadau'r farwolaeth.

Pynciau cysylltiedig