Denu £7.5m i ddatblygu cyn-ffatri gemegion ym Môn a chreu swyddi

Mae pryderon dros gyflwr safle Peboc, sy'n parhau i ddirywio dros amser
- Cyhoeddwyd
Mae £7.5m wedi cael ei glustnodi er mwyn prynu a chlirio cyn-weithfeydd cemegion mewn ymgais i greu cannoedd o swyddi ar Ynys Môn.
Fe gaeodd ffatri Eastman Peboc yn Llangefni yn 2008, gan arwain at 65 o bobl i golli eu swyddi.
Ers hynny mae'r safle wedi bod yn segur ac yn dirywio.
Ond gyda Chyngor Môn yn dweud bod angen mawr am fwy o unedau diwydiannol mewn trefi fel Llangefni, mae cyllid gwerth £7.48m bellach wedi ei sicrhau diolch i Gynllun Twf Gogledd Cymru a Chronfa Porthladd Rhydd yr ynys.
Byddai clirio'r safle, medd arweinydd yr awdurdod, yn golygu bod y sector breifat yn gallu codi unedau busnes ac ateb y galw cynyddol am safleoedd tir llwyd sydd eisoes ar yr ynys.
Mae Safle Peboc yn Llangefni wedi bod heb ddefnydd parhaol ers cau'r ffatri yn 2008
Ar un adeg roedd gweithfeydd cemegion Peboc yn cyflogi tua 170 o bobl, cyn cau yn 2008.
Er y bu gobaith o'r newydd wedi i gwmni Ecopellets Ltd o Iwerddon ddatgelu cynlluniau i adeiladu gorsaf biomas ar y safle, ni chafodd y cynlluniau eu gwireddu.
Ond gyda'r safle wedi parhau i ddirywio dros y blynyddoedd, cafodd ei nodi mewn adroddiad gan Gyngor Môn yn 2024 bod pryder am ei "gyflwr gwael iawn", a'i fod bellach yn "berygl i'r amgylchedd ac i iechyd y cyhoedd".
'Dangos yr awch i symud ymlaen'
Yn sgil hyn, y gobaith rŵan yw "creu swyddi o safon a denu busnesau newydd i'r ynys".
Yn ôl dogfennau'r cyngor, mae'r perchnogion eisoes wedi cytuno mewn egwyddor i werthu'r safle i'r awdurdod.
Dywedodd arweinydd Cyngor Môn, Gary Pritchard, bod 20 mlynedd o ddirywiad ar y safle yn golygu bod "heriau" yn eu hwynebu.
Ond ychwanegodd ei bod yn flaenoriaeth i ddod â'r safle 7,000 metr sgwâr yn ôl i ddefnydd economaidd.

Gary Pritchard: "Mae 'na restr aros ac mae'r galw yn gyson, ac yn cynyddu, am unedau bychain a rhai mawr"
"Mae'n dangos bod effaith y porthladd rhydd yn dod tu hwnt i Gaergybi - mae o ar gyfer yr ynys gyfan," meddai'r cynghorydd Pritchard.
"O edrych ar y gwaith sy'n mynd ymlaen ar hen safle 2 Sisters, a rŵan safle Peboc, mae'n dangos yr awch i symud ymlaen.
"Busnesau bychain a chanolig ydy asgwrn cefn yr economi ac mae ganddon ni unedau busnesau ar draws yr ynys, ac mae'r unedau yna i gyd yn llawn.
"Mae 'na restr aros ac mae'r galw yn gyson, ac yn cynyddu, am unedau bychain a rhai mawr."

Mae cais cynllunio i godi unedau busnes ar safle Peboc eisoes wedi ei gymeradwyo, ond mae'n aneglur a fydd cynlluniau o'r newydd yn cael eu cyflwyno
Ym mis Mawrth 2023 daeth cadarnhau y byddai dau borthladd rhydd yn cael eu sefydlu yng Nghymru, gydag un parth yn Aberdaugleddau a Phort Talbot, a'r llall ar Ynys Môn.
Mae statws porthladd rhydd yn caniatáu i gwmnïau fewnforio nwyddau ac yna'u hallforio tu hwnt i'r rheolau trethi a thollau arferol.
Mae'n caniatáu i ffatrïoedd ger y porthladd fewnforio deunyddiau crai yn ddi-doll, a thalu tollau dim ond wrth i nwyddau gorffenedig adael y safle - neu eu hail-allforio dramor heb dalu tollau o gwbl yn y DU.
Gyda chynllun Peboc wedi denu £4m o gronfa Cyfalaf Sbarduno Porthladd Rhydd Ynys Môn gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, y disgwyl yw y bydd y gwaith yn dechrau ar y safle yn 2026 ac yn cael ei gwblhau yn 2027.
'Manteision gwirioneddol i Langefni a'r rhanbarth'
Drws nesaf i safle Peboc mae cyn-ffatri brosesu cig 2 Sisters, a gaeodd ym Mawrth 2023 gan arwain at dros 700 o bobl i golli eu swyddi.
Erbyn hyn mae'r safle wedi ei brynu gan gwmni Stena Line fel rhan o'u cynlluniau ehangach i hybu'r economi leol.

Mae safle 2 Sisters yn cael ei glirio ar hyn o bryd
Er nad ydy'r cwmni wedi datgelu cynlluniau penodol ar gyfer y safle eto, mae'r adeiladau eisoes wedi eu dymchwel a'r safle yn y broses o gael ei glirio.
Yn ôl Uchelgais Gogledd Cymru, y disgwyl yw byddai gwireddu'r cynllun a chlirio'r safle yn golygu bod modd i'r sector breifat godi unedau newydd ar safle Peboc a chreu tua 220 o swyddi - gan darparu £65.4m mewn gwerth economaidd erbyn 2036.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, aelod arweiniol rhaglen tir ac eiddo Uchelgais Gogledd Cymru, ac arweinydd Cyngor Sir Ddinbych: "Byddai'r cynigion hyn yn dod â'r safle hwn yn ôl i ddefnydd, gan sicrhau manteision gwirioneddol i Langefni a'r rhanbarth ehangach.
"Gyda chefnogaeth y Cynllun Twf, gellir adfywio'r cyn-safle diwydiannol i greu swyddi o ansawdd da.
"Trwy wella isadeiledd, mabwysiadu dylunio cynaliadwy, ac alinio â chynlluniau'r Porthladd Rhydd, bydd y prosiect yn cryfhau'r economi leol ac yn atgyfnerthu Ynys Môn fel lleoliad ar gyfer busnes ac arloesi."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2024

- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2024
