Gwaith chwilio am ddyn yn Afon Teifi yn parhau

Dau berson mewn siacedi llachar yn sefyll ar bont dros Afon Teifi yn Aberteifi ble mae ofnau bod dyn wedi mynd i'r afon
Disgrifiad o’r llun,

Y gred yw bod dyn wedi mynd i mewn i Afon Teifi yn gynnar fore Sul

  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth ymgyrch i ddod o hyd i ddyn aeth ar goll yn Afon Teifi barhau ddydd Mawrth.

Daw'r ymdrech ar ôl i'r gwasanaethau brys dderbyn galwad am 05:15 fore Sul yn dweud bod dyn yn yr afon ger Stryd y Castell, Aberteifi.

Mae swyddogion heddlu, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwylwyr y Glannau wedi bod yn rhan o'r ymgyrch i geisio ei ganfod.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys mewn datganiad brynhawn Llun nad oedd y dyn wedi ei ganfod a hynny er gwaethaf gwaith chwilio eang.

Criw Gwylwyr y Glannau ar Afon Teifi yn Aberteifi ddydd Sul
Disgrifiad o’r llun,

Mae aelodau Gwylwyr y Glannau ymhlith y rhai sydd wedi bod yn chwilio am y dyn yn Afon Teifi

Ychwanegodd ddatganiad yr heddlu: "Mae swyddogion wedi siarad gyda theulu'r dyn yr ydym ni'n credu aeth i mewn i'r dŵr, ac maen nhw'n cael eu cefnogi ar hyn o bryd.

"Hoffwn ni ddiolch i bawb sydd wedi helpu yn ystod y dydd.

"Gofynnwn i aelodau'r cyhoedd gadw draw o'r ardal nawr - yn enwedig glannau'r afon - er eu diogelwch eu hunain.

"Os oes gyda chi wybodaeth all helpu swyddogion, neu os taw chi yw'r person a aeth i'r dŵr ac sydd bellach yn ddiogel, cysylltwch, os gwelwch yn dda."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig