Terry Tuffrey a'i freuddwyd i fod yn DJ
Mae camerâu S4C wedi dilyn Terry Tuffrey am flwyddyn wrth iddo anelu i wireddu ei freuddwyd
- Cyhoeddwyd
Ar raglen Drych ar S4C nos Sul y 23ain o Ebrill fe fyddwn ni’n dod i adnabod dyn ifanc ysbrydoledig o Danygrisiau yng Ngwynedd.
Mae Terry Tuffrey yn 22 mlwydd oed ac mae ganddo anawsterau dysgu cymedrol. Ei freuddwyd yw bod yn DJ a dros y flwyddyn ddiwethaf mae camerâu Cwmni Da wedi bod yn ei ddilyn wrth iddo raddio a mynd amdani i geisio gwireddu ei freuddwyd.
Cafodd Aled Hughes o BBC Radio Cymru sgwrs gyda Terry am ei raglen a’i ddyheadau eraill ar gyfer y dyfodol.
“Dros y flwyddyn ddwytha’ mae Cwmni Da wedi bod yn hollol wych efo fi oherwydd maen nhw wedi bod yn ffilmio fi’n mynd i wahanol lefydd ac yn ffilmio fy niddordebau i. Ond y prif ddiddordeb sydd gen i wrth gwrs ydi DJio.”

Ymddangosodd Terry ar y rhaglen Canu Gyda Fy Arwr, sef Elin Fflur
Mae’n angerddol dros gerddoriaeth a dyna sy’n bwydo ei awydd i fod yn DJ meddai,
“Be’ dwi'n gael o gerddoriaeth ydi pleser yn fwy na dim. Os ydach chi, fel petai, yn cael diwrnod anodd neu drist a dydach chi jyst ddim isio gwneud dim byd, ond 'wyrach mynd am dro a gwrando ar fiwsig. Mi fyswn i bendant yn gwrando ar fiwsig... achos neith o wir godi eich ysbryd chi.”
A pha gerddoriaeth sy’n mynd â’i fryd?
“Pwy dwi'n licio yn canu ydy Elin Fflur wrth gwrs. Ges i y fraint a’r anrhydedd o ganu gyda hi ar 'Canu Gyda Fy Arwr'. A Gai Toms. Ddim yn unig mae o efo caneuon da ond mae o hefyd yn byw yn agos iawn ar stepan drws fi! Ia, a wedyn yn y byd canu Saesneg dw i’n licio Little Mix achos maen nhw wastad yn canu caneuon hapus lle dach chi’n gallu dawnsio iddyn nhw.”

Aeth Terry i'r BBC ym Mangor i ddysgu am gynhyrchu radio a chyd-gyflwyno
Yn rhan o’r rhaglen mae Terry wedi bod yn ei ffilmio fe fuodd o yn y BBC ym Mangor yn dysgu am gynhyrchu radio a chyd-gyflwyno yn fyw ar yr awyr. Holodd Aled o a oedd hynny wedi selio’r freuddwyd o fod yn DJ?
“Dw i’n gwybod sut mae radio a cerddoriaeth yn cael ei llwytho mewn i wahanol raglenni radio sydd yn wych. Dw i wedi cael cynnig profiad gwaith yn y BBC yn ddiweddar felly dw i’n siŵr unwaith y bydda i’n cael ‘chydig fwy o brofiad mi fydda i’n ddigon aeddfed i allu gwneud y penderfyniad cywir i mi. ”

Ond nid dim ond cerddoriaeth a DJio sy’n cadw Terry’n brysur y dyddiau hyn. Mae wedi dechrau dysgu Sbaeneg am fwy nag un rheswm.
“Mae dysgu Sbaeneg wedi dod yn bwysig iawn i mi hefyd dros y blynyddoedd dwytha ‘ma oherwydd mae gynnon ni gartra ein hunain drosodd yn Tenerife a ‘dan ni’n licio mynd drosodd yna o leia’ unwaith y flwyddyn.
“Mae dysgu Sbaeneg pan ‘da chi drosodd yn Sbaen yn teimlo i fi yn hynod o bwysig achos, yndi mae’r iaith Saesneg yno, ond weithiau ‘wyrach eich bod chi angen mynd i rywle gwledig neu gyfarfod pobl sydd ddim yn gallu siarad Saesneg, so os ‘dach chi yn gallu siarad Sbaeneg wel o leia’ ‘dach chi’n gallu conversio hefo nhw sy’n beth da iawn iawn.”

Ond yn yr hydref eleni, fel fydd Terry yn cael cyfle arall i ymarfer ei Sbaeneg gan ei fod yn mynd i Batagonia.
“Dw i’n mynd i Patagonia adeg Eisteddfod y Wladfa. Rydw i wedi ennill ysgoloriaeth i fynd i Patagonia trwy Gyngor Tref Ffestiniog.”
Yn ei gais am yr ysgoloriaeth roedd angen iddo nodi beth hoffai ei wneud tra’i fod o yno.
“Y tair elfen nes i ddewis ohonyn nhw ydy i ganfod mwy am anableddau mewn ysgolion, ffendio allan am sefydliadau amgylcheddol newid hinsawdd a hefyd y trydydd elfen ydy ymweld â Chlwb Rygbi y Ddraig Goch yn y Gaiman i drio cadw’r cysylltiad Cymreig i fynd rhwng Patagonia a Chymru.”
Gallwch glywed sgwrs Terry ac Aled ar BBC Sounds.
Bydd Drych: DJ Terry ar S4C am 21:00 nos Sul, Ebrill 23 ac ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer wedi hynny.