Un person yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad awyren ym Mhowys

Yr awyrenFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr "awyren ysgafn" ddamwain ddydd Sadwrn, 27 Rhagfyr

  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth ambiwlans awyr gludo person i'r ysbyty ddydd Sadwrn, yn dilyn gwrthdrawiad awyren yn Nhalgarth, yn ne Powys.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i'r digwyddiad am tua 11:38, 27 Rhagfyr.

Dywedodd y gwasanaeth tân bod awyren ysgafn wedi glanio mewn cae.

Ychwanegodd bod criwiau o orsafoedd tân Talgarth a Chrucywel wedi bod ar y safle yn defnyddio offer torri hydrolig i dynnu'r peilot allan o'r awyren.

Y digwyddiadFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tynnu'r peilot allan o'r awyren yn "arbennig o heriol", meddai'r gwasanaeth tân

Cafodd y peilot ei dynnu allan o'r awyren yn llwyddiannus, a'i gario i Ambiwlans Awyr, cyn ei gludo i'r ysbyty, meddai'r gwasanaeth tân.

Disgrifion nhw ryddhau'r peilot o'r awyren fel gweithred "arbennig o heriol", gan fod pibellau tanwydd yn rhedeg trwy siasi'r awyren a thanwydd yn cael ei storio yn ei hadenydd.

Roedd Heddlu Dyfed-Powys, y Gwasanaeth Ambiwlans a'r Ambiwlans Awyr hefyd yn bresennol a gadawodd y criwiau'r lleoliad am 13:52.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig