Uchafbwyntiau cerddorol 2025

Cerddorion
  • Cyhoeddwyd

Roedd 2025 yn flwyddyn brysur o ran cerddoriaeth yng Nghymru.

Cafwyd sawl gig cofiadwy, teyrnged i Dewi Pws ar lwyfan Maes yr Eisteddfod, Anweledig yn dychwelyd ar gyfer gig arbennig yn Wrecsam a sawl albwm newydd gan fandiau ac artistiaid unigol.

Ar raglen Mirain Iwerydd ar BBC Radio Cymru, Molly Palmer oedd yn cadeirio panel o ffans y sin gerddorol yng Nghymru ac yn clywed eu huchafbwyntiau nhw.

Dyma oedd gan Gwion Ifan, Elain Gwynedd ac Efan Williams i'w ddweud am y flwyddyn aeth heibio.

Gig y flwyddyn

CiwbFfynhonnell y llun, Ciwb
Disgrifiad o’r llun,

Ciwb yn perfformio yn yr Hen Farchnad yn ystod Gŵyl Arall

Dewis Gwion o ran gig y flwyddyn oedd pan wnaeth Ciwb a'u gwesteion lansio eu hail albwm 'Gad Mi Ddod Mewn' yn yr Hen Farchnad yng Nghaernarfon ym mis Gorffennaf fel rhan o Gŵyl Arall.

Soniodd Gwion ei fod wedi dod i fyny yn unswydd i Gaernarfon i wylio'r gig yma.

Lansiad Dafydd Owain o'i ail albwm - Ymarfer Byw oedd dewis Efan.

Roedd Elain wedi'i gwefreiddio gan berfformiad Anweledig ar Lwyfan y Maes yn yr Eisteddfod.

Mae Elain wedi gwrando ar Anweledig ers blynyddoedd, ond erioed wedi dychmygu y byddai'n cael cyfle i weld y band yn fyw.

Dywedodd: "Ar ddiwrnod y gig, dwi'n cofio gweld pawb yn gwisgo sombreros, ac yn rhedeg o gwmpas y maes yn chwilio am un."

Artist / Band newydd y flwyddyn

Martha ElenFfynhonnell y llun, Martha Elen
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Martha Elen ryddhau EP ym mis Hydref

Mae 2025 wedi bod yn flwyddyn dda i fandiau newydd, a dyma'r rhai ddaeth i amlygrwydd y panel

Dewin oedd dewis Efan. Mae Dewin yn fand ifanc sydd wedi arwyddo i label Fflach Cymunedol. Maen nhw wedi rhyddhau dwy gân eleni (Syched Cas a Gad Hi Fynd).

Roedd Gwion wedi mwynhau gwylio Lafant yn perfformio ar raglen Stiwdio 24/7 ac yn hoff o'r gân S'dim Mŵg Heb Dân.

Mae Lafant hefyd wedi arwyddo i label Fflach Cymunedol.

Dim ond ers ychydig fisoedd mae Martha Elen wedi bod yn rhyddhau cerddoriaeth. Fe wnaeth hi ryddhau EP ym mis Hydref o'r enw 'Lludw Ddoe.'

Hi oedd dewis Elain ac fe ddywedodd hi ei bod wedi "cyffroi gweld fod Martha wedi dechrau rhyddhau cerddoriaeth."

Albwm y Flwyddyn

Dafydd Owain
Disgrifiad o’r llun,

Ymarfer Byw gan Dafydd Owain oedd hoff albwm y panel am 2025

Ddim yn aml mae panel yn gytun, ond roedd y tri yn unfrydol mai 'Ymarfer Byw' gan Dafydd Owain oedd yn haeddu cael ei alw'n albwm gorau 2025.

Cafodd 'Ymarfer Byw' ei ryddhau ddechrau Hydref, gyda gigs lawnsio yn Galeri Caernarfon ac Eglwys St John yn Canton. Dyma ydi ail albwm Dafydd, yn dilyn rhyddhau 'Uwch Dros y Pysgod' yn 2023.

Doedd Efan ddim wedi dod ar draws cerddoriaeth Daf cyn rhyddhau'r albwm, ond yn syth roedd o'n gweld y geiriau "mor bwerus, a'r newid mewn arddulliau o un gân i'r llall."

Mae Elain yn gweld 'Ymarfer Byw' fel albwm mor "onest, ac yn fewnwelediad llwyr i sut oedd Dafydd yn teimlo a beth oedd ei feddyliau tra roedd o'n cyfansoddi."

Yn ogystal â Dafydd Owain cafodd Bwncath, Buddug a Ciwb hefyd eu crybwyll fel rhai oedd wedi rhyddhau albyms o safon yn 2025.

Cân y flwyddyn

Alys WilliamsFfynhonnell y llun, Alys Williams
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gwion wrth ei fodd gyda llais Alys Williams o Blodau Papur

Pan Fo Cyrff yn Cwrdd gan Ciwb ac Eban Elwy oedd dewis Elain.

Mae'r gân oddi ar ail albwm Ciwb, 'Gad Mi Ddod Mewn' – albwm sy'n cynnwys 10 o covers o hen ganeuon.

Roedd y gân wreiddiol 'Pan Fo Cyrff yn Cwrdd' gan Y Trwynau Coch yn 1981, ond fe wnaeth Ciwb ddewis Eban Elwy o TewTewTennau i ganu'r fersiwn newydd o'u cân nhw.

Cân gafodd ei rhyddhau ym mis Mawrth oed dewis Gwion, sef Dŵr gan Blodau Papur.

Roedd y gerddoriaeth yn gwneud i Gwion "deimlo fel bod o dan ddŵr, yn debyg i Arpeggi gan Radiohead."

Mae hefyd yn ffan mawr o lais Alys Williams.

Cân Cuddio Tu Ôl Y Llen gan Breichiau Hir oedd yn haeddu cael ei galw'n gân y flwyddyn ym marn Efan.

Daeth y gân allan ym mis Ionawr, ac mae wedi'i chynnwys ar yr albwm 'Y Dwylo Uwchben' ddaeth allan yn mis Ebrill.

Mae hi wedi bod yn flwyddyn fawr i Breichiau Hir sydd wedi rhyddhau albwm ac wedi bod ar daith yn cefnogi Goldie Lookin Chain.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: