Menyw wedi gweld dau wn mewn eiddo cyn i fenyw gael ei lladd

Melissa Quailey-Dashper (chwith) a Joanne Penney (dde)Ffynhonnell y llun, Athena Pictures/PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Melissa Quailey-Dashper (chwith) yn gwadu llofruddio Joanne Penney (dde)

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw sy'n gwadu llofruddio mam 40 oed a gafodd ei saethu'n farw ar stepen drws fflat wedi dweud wrth lys ei bod wedi gweld dau wn mewn tŷ yng Nghaerdydd ble honnir y gwnaed y cynllwynio.

Bu farw Joanne Penney o fewn munudau i gael ei saethu yn Nhonysguboriau ger Llantrisant ar 9 Mawrth.

Mae pump o bobl yn gwadu llofruddiaeth, ond fe newidiodd chweched person, Marcus Huntley o Gaerdydd, ei ble yn gynharach yn yr achos gan gyfaddef saethu Ms Penney.

Dywedodd Melissa Quailey-Dashper wrth Lys y Goron Caerdydd ei bod wedi cytuno i fynd gyda dau ddyn o Gaerdydd, nad oedd hi erioed wedi cwrdd â nhw o'r blaen, i guro ar ddrws tŷ er mwyn gofyn i gael cyffuriau ac arian yn ôl.

Yn gynharach y diwrnod hwnnw roedd Ms Quailey-Dashper wedi teithio o Gaerlŷr gyda'r deliwr cyffuriau Joshua Gordon, ei gariad Kristina Ginova, a'r gyrrwr Tony Porter.

Dywedodd Ms Quailey-Dashper, ar ôl treulio ychydig oriau mewn eiddo yng Nghaerdydd - ble gwelodd hi ddau wn ar fwrdd - fe aeth mewn car gyda Marcus Huntley, Jordan Mills-Smith, Tony Porter a Joshua Gordon.

Clywodd y llys fod Ms Quailey-Dashper wedi dweud nad oedd ganddi unrhyw syniad y byddai gwn yn cael ei ddefnyddio yn Nhonysguboriau, ac nad oedd wedi gweld un yn ystod y daith o Gaerdydd.

Ond mewn cyfweliadau heddlu ar ôl ei harestio yng Nghaerlŷr, y diwrnod ar ôl y llofruddiaeth, dywedodd wrth yr heddlu efallai bod ganddi "rhyw fath o syniad bod rhywun wedi cael ei saethu" ond ei bod hefyd yn meddwl y gallai'r sŵn uchel "fod wedi bod yn dân gwyllt".

'Mewn panig llwyr'

Mae Ms Quailey-Dashper yn mynnu na chafodd y digwyddiad ei drafod yn y car ar y daith yn ôl i Gaerdydd, ac nad oedd Joshua Gordon na Tony Porter yn gwybod unrhyw beth am y posibilrwydd y byddai gwn yn cael ei saethu.

Wrth gael ei chroesholi gan fargyfreithiwr amddiffyn Joshua Gordon, Talbir Singh, fe gadarnhaodd Ms Quailey-Dashper nad oedd Tony Porter na Joshua Gordon, hyd y gwyddai hi, yn gwybod y byddai gwn yn cael ei ddefnyddio.

Gofynnodd Mr Singh iddi gadarnhau a oedd Joshua Gordon mewn "panig llwyr" pan aeth i gyfarfod ag ef yng Nghaerlŷr y diwrnod canlynol, ar ôl darganfod bod rhywun wedi cael ei saethu?

Atebodd: "Oedd".

"Doedd Rico (Joshua Gordon) ddim yn gwybod?" meddai Talbir Singh CB, "ac roedd e'n panicio?"

Atebodd Ms Quailey-Dashper: "Oedd."

Mae Melissa Quailey-Dashper, ynghyd â Joshua Gordon, Tony Porter, Kristina Ginova a Jordan Mills-Smith, yn gwadu llofruddiaeth ac mae'r achos yn parhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig