Porthladd Caergybi yn ailagor ar ôl digwyddiad angori

Dywedodd Stena bod digwyddiad wrth i fferi Stena Estrid gyrraedd o Ddulyn
- Cyhoeddwyd
Mae porthladd Caergybi wedi ailagor nos Fercher, ar ôl cael ei gau dros dro yn dilyn digwyddiad wrth i fferi geisio angori.
Dyma'r eildro mewn ychydig dros flwyddyn i'r porthladd orfod cau.
Yn ôl cwmni Stena Line, sy'n rhedeg y porthladd, roedd digwyddiad wrth i fferi Stena Estrid gyrraedd o Ddulyn fore Mercher.
Maen nhw bellach wedi dweud bod y llong yn cael ei symud i ffwrdd o Derfynfa 3, i ganiatáu i'r gwaith trwsio ddechrau a bydd y porthladd yn medru ailagor.
Cafodd holl wasanaethau Stena Line ac Irish Ferries eu canslo neu eu gohirio, ond mae Stena Ports wedi dweud nos Fercher y bydd gweithredwyr fferi yn dweud wrth eu cwsmeriaid "nad oes disgwyl unrhyw ganslo pellach ar gyfer hwylio".
Oedi pellach cyn ailagor Porthladd Caergybi yn llawn
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2025
Oedi cyn ailagor Porthladd Caergybi yn llawn unwaith eto
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2025
Porthladd Caergybi: Deufis o waith cynnal a chadw yn cau terfynfa
- Cyhoeddwyd10 Medi 2025
Mae'r porthladd yn gweithredu dwy derfynfa, Terfynfa 3 a Therfynfa 5.
Ond fe gafodd Terfynfa 5 ei chau ym mis Rhagfyr yn dilyn digwyddiad wrth i fferi geisio angori yno.
Fe gafodd arolygon dan y dŵr eu gohirio gan dywydd gwael, ac roedd disgwyl i waith atgyweirio ddechrau mis yma.
Tra eu bod yn aros am hyn roedd Stena Line ac Irish Ferries yn rhannu Terfynfa 3, gan newid eu hamserlenni i wneud hynny'n bosibl.
Ond gyda Therfynfa 3 wedi cau, doedd dim modd i unrhyw fferis angori yno.
'Ymchwiliad wrthi'n cael ei gynnal'
Roedd fferi Stena Estrid yn teithio o Ddulyn am 04:30 fore Mercher, ac roedd i fod i angori am 08:00.
Dywedodd y cwmni fferi fod yr holl deithwyr a gweithredwyr cludo nwyddau wedi "gadael fel arfer".
Daeth y penderfyniad i gau'r porthladd flwyddyn ar ôl iddo orfod cau oherwydd digwyddiad angori arall cyn Storm Darragh ym mis Rhagfyr 2024.
Roedd y porthladd ar gau tan 16 Ionawr, sef pryd roedden nhw'n gallu ailagor Terfynfa 5.
Ond dim ond ym mis Gorffennaf y llwyddon nhw ddychwelyd i weithrediadau llawn, yn dilyn nifer o atgyweiriadau i Derfynfa 3.
Fe arweiniodd hyn at nifer yn galw am gamau gweithredu i wella gwydnwch y porthladd.

Mae angen sicrwydd cadarn ynghylch gwydnwch hirdymor y porthladd, yn ôl Rhun ap Iorwerth
Y daith rhwng Caergybi a Dulyn - ychydig dros 100 milltir ac yn cymryd 3 awr a 15 munud - yw'r llwybr cyflymaf rhwng tir mawr y DU a Gweriniaeth Iwerddon.
Gyda mwy na 400,000 o lorïau a 400,000 o geir y flwyddyn yn ei ddefnyddio bob blwyddyn, Caergybi yw'r ail borthladd fferi teithwyr prysuraf yn y DU - Dover yw'r un mwyaf prysur.
Porthladd Caergybi yw canolfan drafnidiaeth ryngwladol fwyaf Cymru gyda bron ddwywaith y nifer o deithwyr blynyddol o'i gymharu â'r unig faes awyr mawr Cymru yng Nghaerdydd.
Yn gynharach yn y dydd dywedodd yr Aelod o'r Senedd dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth AS fod y sefyllfa yn "bryderus".
"Bydd teithwyr, cludwyr, a busnesau lleol yng Nghaergybi yn poeni ac yn rhwystredig am y cyhoeddiad, ac rwy'n eu hannog i gysylltu â mi os gallaf fod o unrhyw gymorth.
"Byddaf yn cysylltu â Stena Line a Llywodraeth Cymru ar frys i ddeall beth sy'n cael ei wneud i ailagor y porthladd cyn gynted â phosibl. Yn dilyn nifer o ddigwyddiadau mae angen sicrwydd cadarn arnom ynghylch gwydnwch hirdymor y porthladd."
Roedd Prif Weithredwr Cyngor Môn, Dylan J Williams hefyd wedi dweud ar y pryd fod yr awdurdod mewn trafodaethau cyson gyda'r Awdurdod Porthladdoedd ac yn gweithio gyda phartneriaid i leihau'r effaith yn lleol pe bai'r porthladd ar gau am gyfnod estynedig.
'Credu bod llong wedi taro un o'r platfformau concrit'
Mae effaith cau'r porthladd ar unrhyw adeg yn gallu bod yn "enfawr", yn ôl Eugene Drennan, Dirprwy Is-lywydd Cymdeithas Cludwyr Ffordd Iwerddon.
"Mae hyn fel déjà vu, ry'n ni wedi bod yma o'r blaen, a ry'n ni 'ma eto," meddai.
"Rydyn ni'n credu bod llong wedi taro un o'r platfformau concrit a bod y llong ei hun wedi'i difrodi.
"Rydyn ni wedi cael gwybod bod gwaith yn mynd rhagddo i symud y llong er mwyn clirio'r man yna fel bod teithiau yn gallu ailddechrau.
"Dyw'r cyfathrebu a'r adolygiadau gafodd eu haddo wedi'r difrod yn 2024 ddim wedi digwydd.
"Mae sgil effeithiau cau'r porthladd am unrhyw gyfnod yn enfawr ac rydyn ni'n lwcus mai Ionawr ydi hi gan y byddai mis diwethaf wedi bod llawer prysurach."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.