Diswyddo heddwas am gyffwrdd yn amhriodol â chyd-weithwyr

Daeth panel i'r casgliad fod PC Pamela Pritchard wedi torri safonau ymddygiad yr heddlu
- Cyhoeddwyd
Mae swyddog Heddlu Gogledd Cymru wedi cael ei diswyddo ar ôl iddi gyffwrdd yn amhriodol â dau gyd-weithiwr yn ystod parti yng Nghlwb Rygbi Caernarfon.
Fe wnaeth PC Pamela Pritchard roi ei llaw yn achfen (groin) cyd-weithiwr gwrywaidd ar ddau achlysur ac eistedd ar ei lin a'i gusanu yn ystod y parti yn 2024.
Fe wnaeth PC Pritchard hefyd afael ym mronnau cyd-weithiwr benywaidd, a cheisio cusanu uwch aelod staff.
Daeth panel i'r casgliad ddydd Iau fod yr holl honiadau yn ei herbyn wedi cael eu profi, a'i bod wedi torri safonau ymddygiad y llu.
Fe ddywedon nhw mai'r unig gosb posib oedd y dylai golli ei swydd.

Roedd bargyfreithiwr PC Pritchard wedi dadlau y dylai hi gael cadw ei swydd
Clywodd y gwrandawiad pedwar diwrnod ym Mae Colwyn fod PC Pritchard, 29, yn un o nifer o blismyn oedd wedi mynychu parti gadael cyd-weithiwr yng Nghlwb Rygbi Caernarfon ym Mawrth 2024.
Un arall oedd wedi mynd i'r parti oedd swyddog gwrywaidd a oedd yn cael ei adnabod yn y gwrandawiad fel "PC B".
Dywedodd PC B wrth y panel ei fod yn siarad gyda PC Pritchard a chyd-weithiwr benywaidd arall yn y bar pan wnaeth PC Pritchard, "o nunlle, fe afaelodd hi ynof fi o dan y belt, a rhoi ei llaw ar fy organau rhyw dros fy nillad".
"Doedd hynny ddim yn briodol mewn unrhyw ffordd - ro'n i'n teimlo wedi fy mychanu."
'Mwy a mwy annerbyniol'
Ychwanegodd fod PC Pritchard wedi gwneud hynny eto yn ddiweddarach tra roedd criw o swyddogion y tu allan i'r adeilad yn yr ardal ysmygu.
Ar ôl hynny, tu mewn i'r clwb rygbi, aeth PC Pritchard draw at PC B eto ac eistedd ar ei lin.
"Dwi'n cofio hi yn rhoi ei llaw o gwmpas fy ngwddf a rhoi cusan i fi ar y gwefusau," meddai.
"Doedd hyn ddim yn briodol - roedd hyn mewn lle cyhoeddus. Roedd ei hymddygiad yn dod yn fwy a mwy annerbyniol."

Roedd nifer o blismyn wedi mynychu'r parti yng Nghlwb Rygbi Caernarfon ym Mawrth 2024
Clywodd y panel hefyd gan "PC A" - swyddog heddlu benywaidd a ddywedodd fod PC Pritchard wedi gafael yn ei bronnau yn ystod yr un parti.
"Daeth PC Pritchard ata' i o'r tu ôl, rhoi ei breichiau o amgylch fy ngwddf, yna eu rhoi dan fy ngheseiliau, ac fe afaelodd hi yn fy mronnau a'u gwasgu nhw," meddai PC A.
Fe wnaeth PC Pritchard ymddiheuro i PC A tra'n rhoi tystiolaeth i'r gwrandawiad yr wythnos hon.
"Roedd fy ymddygiad y noson honno yn amhriodol, a dydw i erioed wedi ymddwyn fel yna o'r blaen," meddai.
"Mae gen i gymaint o gywilydd o beth ddigwyddodd... oll alla i wneud ydy ymddiheuro.
"Dwi'n teimlo 'mod i wedi gadael yr heddlu i lawr, wedi gadael fy hun i lawr ac wedi gadael fy nheulu i lawr."
Fe wnaeth PC Pritchard hefyd geisio cusanu arolygydd, a defnyddio "iaith sarhaus neu anaddas" tuag at ddau gyd-weithiwr.
'Diswyddo yn syth yw'r unig opsiwn'
Dydd Iau daeth y panel i'r casgliad fod yr honiadau yn erbyn PC Pritchard - oedd wedi ymuno â Heddlu Gogledd Cymru fel swyddog dan hyfforddiant yn 2023 - wedi cael eu profi.
Roedd y bargyfreithiwr Fiona Clancy, oedd yn cynrychioli PC Pritchard, wedi dadlau y dylai hi gael cadw ei swydd.
"Mae hi'n derbyn bod ei hymddygiad yn annerbyniol," meddai.
Ychwanegodd ei fod yn ddigwyddiad unigol a bod "dim risg y byddai hyn yn digwydd eto".
Ond dywedodd cadeirydd y panel, y Dirprwy Brif Gwnstabl Chris Allsop, fod yr honiadau "mor ddifrifol mai diswyddo yn syth yw'r unig opsiwn".
Ychwanegodd fod nifer o ddioddefwyr, a bod ymddygiad PC Pritchard "wedi cael niwed sylweddol ar eu lles".
Dywedodd fod y cyhoedd yn disgwyl i swyddogion heddlu ymddwyn mewn modd proffesiynol, "a bydd y cyhoedd yn gweld yr ymddygiad yma sydd wedi'i brofi fel annerbyniol".
Mewn datganiad, dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Nigel Harrison o Heddlu'r Gogledd: "Roedd ymddygiad PC Pritchard ymhell o'r hyn rydyn ni'n ei ddisgwyl gan ein swyddogion.
"Fel unrhyw un arall, does dim problem gyda swyddogion yn ymlacio a mwynhau eu hunain y tu hwnt i oriau gwaith, ond roedd ei hymddygiad y noson honno, yn syml, yn gwbl annerbyniol.
"Mae hi wedi cael ei diswyddo, gan ddod â'i chyfnod byr gyda ni i ben, a bydd hefyd yn cael ei hatal rhag gwasanaethu gydag unrhyw lu arall yn y DU."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.