Cwmni o Gaerdydd yn anfon ffatri bach gyda ffwrnais 1000C i'r gofod

Mi fydd y ffatri bach yn creu lled-ddargludyddion yn y gofod
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni o Gaerdydd gam yn agosach i gyflawni camp sy'n swnio fel rhywbeth allan o ffuglen wyddonol - cael ffatri yn y gofod yn cynhyrchu deunyddiau i'w defnyddio yn ôl ar y Ddaear.
Mae Space Forge wedi anfon blwch, neu "ffatri", maint meicrodon i mewn i orbit ac wedi dangos bod modd tanio'r ffwrnais a chyrraedd tymheredd o tua 1,000C.
Y bwriad yw gweithgynhyrchu deunyddiau yn y gofod - ble mae'r amodau'n ffafriol - a'u defnyddio yn ôl ar y Ddaear mewn meysydd fel electroneg, cyfrifiadura a thrafnidiaeth.
Dywedodd Veronica Viera, sy'n gweithio i Space Forge, fod gweld llun lloeren o'r ffwrnais wedi'i danio yn "un o'r eiliadau mwyaf cyffrous" yn ei bywyd.

Mi fydd y lled-ddargludyddion sy'n cael eu creu yn y gofod hyd at 4,000 gwaith yn fwy pur
Mae'r amodau yn y gofod yn ddelfrydol ar gyfer creu lled-ddargludyddion - cydrannau bach sy'n cael eu defnyddio mewn amrywiaeth o feysydd.
Mae angen i'r atomau sy'n ffurfio lled-ddargludyddion gael eu gosod mewn strwythur 3D trefnus iawn ond gan fod yr amgylchedd yn y gofod yn ddi-bwysau mae'r atomau'n cael eu gosod yn y drefn yn berffaith.
Yn ogystal â hyn, gan fod gwactod y gofod yn amgylchedd mor lân mae'r deunydd yn eithriadol o bur.
Dywedodd Prif Weithredwr y cwmni, Josh Western, fod y gwaith hwn yn eu galluogi "i greu lled-ddargludyddion hyd at 4,000 gwaith yn burach yn y gofod o gymharu â'r rhai sy'n cael eu cynhyrchu ar y Ddaear ar hyn o bryd — sy'n golygu eu bod yn gweithio'n well, yn fwy effeithlon ac yn fwy dibynadwy.
"Mi fydd y math yma o led-ddargludydd yn cael ei ddefnyddio mewn tŵr 5G ble chi'n cael eich signal ffôn, mewn mannau sy'n gwefru ceir trydanol ac mewn awyrennau modern" meddai.

Dywedodd Veronica Viera bod gweld y lluniau o'r gofod yn gyffrous iawn
Ers lansio'r ffatri ar roced SpaceX dros yr haf, mae'r tîm wedi bod yn rheoli'r arbrawf o ganolfan reoli yng Nghaerdydd.
Dywedodd un o beirianwyr Space Forge, Veronica Viera, bod gweld delweddau'n cael eu hanfon yn ôl o'r ffwrnais wedi'i danio yn un o "eiliadau mwyaf cyffrous" ei bywyd.
Y cam nesaf yw adeiladu ffatri fwy, un a allai gynhyrchu deunydd ar gyfer hyd at 10,000 o sglodion, a phrofi system i'w ddychwelyd yn ddiogel i'r Ddaear.
Mae cwmnïau eraill hefyd yn edrych tua'r sêr gydag arbenigwyr yn dweud bod gweithgynhyrchu yn y gofod eisoes wedi dechrau.
"Mae gweithgynhyrchu yn y gofod yn rhywbeth sy'n digwydd nawr," meddai pennaeth gofod yn yr Amgueddfa Wyddoniaeth, Libby Jackson.
"Mae'n ddyddiau cynnar" meddai "ond drwy brofi'r dechnoleg mae'n agor y drws ar gyfer cynnyrch sy'n hyfyw yn economaidd - ble mae modd creu pethau yn y gofod a'u dychwelyd i'r Ddaear ble gall fod o ddefnydd a budd i bawb.
"Ac mae hynny'n gyffrous iawn."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.