Eisteddfod Pontypridd yn ysbrydoli menter newydd yn y dref

Canolfan YMa yng nghanol Pontypridd fydd man cyfarfod y theatr newydd
- Cyhoeddwyd
Ddydd Sadwrn fe fydd gweithdy cyntaf cwmni theatr newydd i ieuenctid yn Rhondda Cynon Taf.
Y syniad yw dod â phobl ifanc rhwng 14-24 oed at ei gilydd gyda'r bwriad o berfformio yn y Gymraeg, boed hynny'n gyngherddau, sioeau cerdd neu recordiau.
Daeth y syniad am y fenter yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd yn 2024.
Y nod mawr cyntaf yw creu sioe gerdd newydd sbon, a'i pherfformio rhywbryd yn 2027.

Daeth pobl o bob rhan o sir Rhondda Cynon Taf at ei gilydd ar gyfer ymarfer cyntaf sioe Nia Ben Aur yn Eisteddfod Pontypridd 2024
Y tri sy'n gyfrifol am y syniad o greu theatr ieuenctid yn yr ardal yw Jên Angharad (Prif Weithredwr Cymuned Artis yng Nghanolfan YMa, Pontypridd), Osian Rowlands (Prif Weithredwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf) a Huw Meredydd, neu'r cerddor Huw M.

Roedd cynhyrchiad yr Eisteddfod Genedlaethol o'r sioe gerdd Nia Ben Aur yn 2024 yn ysbrydoliaeth i'r fenter
Dywedodd Huw wrth Cymru Fyw bod y syniad wedi cychwyn wedi i gannoedd o bobl ymuno â chôr Eisteddfod Pontypridd yn 2024.
Meddai: "O'n i yn y côr ar gyfer y gymanfa a sioe gerdd Nia Ben Aur, ac fe wnaeth hynny dynnu pobl at ei gilydd o bob ran o sir Rhondda Cynon Taf.
"Roedd yr ysbryd cymunedol yn ofnadwy o gry', ac roedden ni'n meddwl adeiladu ar hynny gyda rhywbeth mwy parhaol."

Mae'r enw 'Tafod' yn cyfuno lleoliad y theatr ar lan Afon Taf, a'r gair Tafod i gyfleu siarad, canu a pherfformio yn y Gymraeg
Daeth arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru er mwyn cynorthwyo i sefydlu'r theatr, ac mae'r tri yn ddiolchgar iawn am hynny.
"Mewn sir fel yma mae llai o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r ysgol nag mewn ambell sir arall, felly rydan ni'n trio creu gofod i berfformio yn y Gymraeg.
"Dim ond ers rhyw dair wythnos ydan ni wedi cyhoeddi'r fenter, ac fe fydd y cyfarfodydd cyntaf ar 14 a 21 Chwefror. Mae'r ymateb eisoes yn galonogol.
"Mae'n gyfle da i ddod â rhywbeth newydd i'r ardal yma a rhoi ffocws i bobl."

Osian Rowlands yw prif weithredwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf
"Ysbrydoliaeth fawr arall oedd Cwmni Theatr Ieuenctid Maldwyn.
"Maen nhw wedi bod wrthi ers 45 mlynedd bellach yn rhoi cyfleoedd i bobl o bob oed i berfformio.
"Maen nhw wedi rhoi rhywbeth gwerthfawr i genedlaethau o bobl eu hardal.
"Nod mawr i ni fydd creu sioe gerdd newydd sbon yn y Gymraeg a'i pherfformio hi yn 2027. Ry'n ni wedi bod yn trafod gyda'r nifer o theatrau ardderchog sydd yma o fewn y sir, ond gobeithio bydd cyfle hefyd i wneud perfformiadau eraill llai.
"Fel arfer mae nifer o wyliau yn yr ardal dros y flwyddyn gron, ac fe fyddwn ni'n chwilio am gyfleoedd i berfformio drwy'r flwyddyn.
"Mae recordio caneuon hefyd yn rhywbeth sy'n apelio er mwyn creu gwaddol."
Mae YMa yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb ymuno gyda'r fenter, neu sydd am gynnig cymorth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2024

- Cyhoeddwyd11 Awst 2024
