Dyfodol marchnad hanesyddol yn y gogledd yn y fantol

Treffynnon
Disgrifiad o’r llun,

Mae marchnad Treffynnon wedi bod yn rhedeg ers saith canrif, ond bellach mae'r cyngor sir yn dweud ei bod yn rhy ddrud

  • Cyhoeddwyd

Mae dyfodol marchnad hanesyddol Treffynnon yn y fantol, wrth i'r cyngor sir ddweud na allan nhw fforddio ei chynnal dim mwy.

Fe gafodd y farchnad ei sefydlu saith canrif yn ôl gan y mynachod lleol, ond erbyn hyn mae'n costio dros £6,000 y flwyddyn o arian cyhoeddus i'w chynnal.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn dweud bod hyn yn ormod iddyn nhw, ond mae Cyngor Tref Treffynnon yn awyddus i geisio ei rhedeg ei hun, gan ei gwella a'i chryfhau.

Mae deiseb ar-lein nawr yn galw am achub y farchnad, gyda thrigolion lleol yn credu y byddai marchnad lwyddiannus yn helpu'r stryd fawr ac yn denu mwy i'r ardal.

Kate Water (chwith) a Roberta Owen
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kate Water (chwith) a Roberta Owen yn credu y byddai'n golled fawr pe bai'r farchnad yn dod i ben

Does dim llawer yn cael eu denu i'r dref gan y farchnad, yn ôl ymchwil y cyngor sir, ond mi fyddai dal yn "golled fawr" meddai Roberta Owen o Grŵp Trawsnewid Treffynnon a'r Cylch.

"Mae angen marchnadoedd da iawn - lot fwy o farchnadoedd dwi'n meddwl.

"Does dim digon [yn defnyddio'r farchnad] mae'n amlwg - dim ond pedwar stondin sydd wedi bod.

"Ond maen nhw eisiau mynd ymlaen efo fo."

Er mai dydd Iau - diwrnod y farchnad - ydy un o'r diwrnodau tawelaf ar gyfer un busnes lleol, mae'r perchennog Kate Water yn credu y byddai marchnad lwyddiannus yn cael effaith ehangach ar y stryd fawr.

"Mae busnes yn dawel yn Treffynnon, a marchnad dda would helpu busnes fi a shops a'r high street hefyd."

Darren Dorling
Disgrifiad o’r llun,

Mae Darren Dorling sy'n stondinwr rheolaidd yn Nhreffynnon yn dweud bod yna alw am ragor o stondinau

Ychwanegodd un o stondinwyr y farchnad, Darren Dorling, bod yna awydd gweld y farchnad yn goroesi.

"Mae pob un o fy nghwsmeriaid i, a dwi'n cael llawer bob wythnos, wir am weld mwy o stondinau yma," meddai.

"Felly yn sicr mae lot o ddiddordeb mewn cadw'r farchnad yma i fynd."

Dywedodd Cyngor Tref Treffynnon eu bod yn deall pwysigrwydd y farchnad i fywyd cymdeithasol ac economi'r dref a'u bod yn awyddus i'w chadw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig