Bwrdd Iechyd Hywel Dda i benderfynu ar ddyfodol naw gwasanaeth clinigol

Yn ôl y Bwrdd Iechyd, mae rhai gwasanaethau yn fregus gan fod timau clinigol wedi'u gwasgaru ar hyd sawl safle dros ardal ddaearyddol eang
- Cyhoeddwyd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi clywed mai'r cynigion ar gyfer eu gwasanaeth strôc sydd wedi derbyn y "gwrthwynebiad cryfaf", wrth iddyn nhw drafod dyfodol naw gwasanaeth clinigol.
Yn ôl y bwrdd iechyd, mae'r gwasanaethau dan sylw yn "fregus" a "ni allant barhau fel y maent".
Gyda dros 4,000 wedi ymateb i holiadur yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol y gwasanaethau, trafod y canfyddiadau ac ystyried yr opsiynau oedd ar frig yr agenda yn ystod y cyfarfod bwrdd eithriadol ddydd Mercher.
Mae disgwyl penderfyniad terfynol ar y gwasanaethau ddydd Iau.
Cannoedd yn protestio i gadw uned strôc Ysbyty Bronglais
- Cyhoeddwyd7 Chwefror
Ymateb chwyrn i ad-drefnu posib yn ysbytai'r gorllewin
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2025
'Dim posib aros' am ysbyty newydd i'r gorllewin cyn gwella gwasanaethau
- Cyhoeddwyd29 Awst 2025
Ymysg y naw gwasanaeth sy'n wynebu newid mae gofal critigol, orthopedeg a strôc.
Yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, y nod yw "mynd i'r afael â gwendidau gwasanaethau, gwella safonau a lleihau amseroedd aros i bobl sydd angen diagnosis a thriniaeth".
Bydd y penderfyniad terfynol, fydd yn effeithio ar wasanaethau ar draws pob un o brif ysbytai'r bwrdd, yn ystyried ymatebion yr ymgynghoriad cyhoeddus ochr yn ochr ag ystod eang o wybodaeth arall.

Mewn protestiadau diweddar, mae ymgyrchwyr wedi bod yn galw am gadw uned strôc yn Ysbyty Bronglais
Ar hyn o bryd mae unedau strôc ym mhob un o bedwar prif ysbyty'r bwrdd Iechyd, sef Bronglais yn Aberystwyth, Glangwili yng Nghaerfyrddin, Tywysog Philip yn Llanelli a Llwynhelyg yn Hwlffordd.
Byddai'r ddau opsiwn, a gafodd eu rhoi i'r cyhoedd fel rhan o ymgynghoriad, yn golygu haneru'r nifer o unedau strôc sydd ar gael ar hyn o bryd.
Gallai hyn olygu y byddai unedau strôc presennol Bronglais a Glangwili yn troi'n wasanaethau 'trin a throsglwyddo' yn unig - gyda chleifion yr ysbytai hynny yn gorfod teithio i ysbyty Tywysog Philip neu i Lwynhelyg i gael gofal mewn uned strôc.
Yn ôl y bwrdd iechyd, byddai'r ddau opsiwn yn "help i gael mwy o staff" ac yn "gwella'r gwasanaeth" ond gwrthwynebu'r opsiynau mae'r grwpiau ymgyrchu lleol fel y grŵp Amddiffyn Gwasanaethau Bronglais, sydd wedi bod yn protestio i geisio achub eu huned.

Brendan Somers a'i wraig, Glynis
Ddwy flynedd yn ôl, cafodd Brendan Somers strôc, gan dderbyn ei driniaeth yn yr uned ym Mronglais.
Yn ôl ei wraig Glynis roedd y gwasanaeth i'w ganmol, ond mae meddwl am golli'r uned a'i droi'n wasanaeth 'trin a throsglwyddo' yn peri gofid iddi.
"Mae e'n ofnadwy os maen nhw'n bwriadu cau e, achos maen nhw wedi bod yn siarad am 'treat and transfer'. Pan maen nhw'n dweud treat, dim ond rhoi y clot buster mae nhw," meddai.
"Popeth arall, chi'n gorfod mynd milltiroedd ar y ffordd lawr i Glangwili neu Llanelli neu Withybush yn Hwlffordd. Ti'n gorfod mynd mewn hast a dilyn yr ambiwlans… Ofnadwy."

Yn ystod y cyfarfod bwrdd eithriadol ddydd Mercher, fe glywodd aelodau mai'r cynigion ar gyfer y gwasanaeth strôc a dderbyniodd y gwrthwynebiad cryfaf, yn enwedig pryderon am fynediad amserol, risgiau 'yr awr aur', mynediad teuluol yn ystod adferiad, ac ansicrwydd ynghylch gwasanaeth 'trin a throsglwyddo.'
Mae wyth gwasanaeth arall sy'n cael eu hystyried yn fregus, yn cynnwys:
Gofal critigol
Dermatoleg
Llawfeddygaeth gyffredinol frys
Endosgopi
Offthalmoleg
Orthopedeg
Radioleg
Wroleg
Yn ystod y cyfarfod clywodd aelodau'r bwrdd fod nifer o themâu tebyg wedi codi dro ar ôl tro yn ymatebion y cyfnod ymgynghori.
Roedd y rhain yn cynnwys pryderon am deithio, trafnidiaeth a daearyddiaeth wledig, ynghyd â phryderon na fyddai newid gwasanaethau yn unig yn datrys problemau staffio.
Clywodd y bwrdd hefyd fod ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y broses yn fregus, gyda rhai'n teimlo bod y broses yn teimlo'n gymhleth, ac ar adegau, bod penderfyniadau wedi cael eu gwneud ymlaen llaw.
Dywedodd Dr Neil Wooding, cadeirydd y bwrdd iechyd ei fod yn teimlo fod y broses wedi bod "yn un onest", gan ddweud bod yr ymatebion yn ystod y cyfnod ymgynghori wedi bod yn "hynod ddefnyddiol".
Roedd yn cydnabod nad oedd y penderfyniadau am fod yn rhai hawdd, gyda'r bwrdd yn gorfod delio â "chyfres o densiynau".
Cafodd ymatebion yr ymgynghoriad cyhoeddus, law yn llaw ag ystod eang o wybodaeth arall eu trafod mewn manylder.

"Bydd rhaid i rhai o'r gwasanaethau newid," meddai Olwen Morgan
Mewn cyfweliad â BBC Cymru, dywedodd Olwen Morgan, un o'r cyfarwyddwyr nyrsio cynorthwyol o fewn Hywel Dda: "Fel bwrdd iechyd, ni am gynnal y gwasanaethau gorau gallwn ni i'n poblogaeth.
"Er mwyn gwneud hynny, bydd rhaid i rhai o'r gwasanaethau hynny newid neu falle symud i rannau arall o'r bwrdd iechyd. Ond y nod wastad fydd i gynnal gwasanaethau mor agos i gartrefi pobl a chymunedau â phosib.
"Ond falle bydd rhaid newid pwy wasanaethau i ni'n rhoi a ble ni'n rhedeg nhw er mwyn cadw safonau a cael y gwasanaethau i oroesi."
Ychwanegodd na fyddai unrhyw newid yn digwydd dros nos.
"Mae'n mynd i gymryd amser i ni fel bwrdd iechyd i wireddu y cytundebau a'r newidiadau, felly byddwn ni'n cadw cysylltiad gyda'n poblogaeth a byddwn ni'n sicrhau bydd ein poblogaeth a'n cleifion ni'n gwybod yn union pryd fydd ein gwasanaethau ni'n newid a sut y byddan nhw'n newid ond fydd dim byd yn newid dros nos."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.