Gorchymyn dyn rhag stelcio AS Plaid Cymru Liz Saville Roberts

Fe rannodd yr heddlu y llun yma o David Lowe yn 2020 wedi iddo gael dedfryd o garchar yn dilyn achos blaenorol o fygwth Liz Saville Roberts
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 72 oed o Wynedd wedi derbyn gorchymyn yn ei atal rhag stelcio Aelod Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts.
Clywodd llys yn Llandudno bod David Lowe o'r Felinheli wedi cyhoeddi llun ar-lein o Ms Saville Roberts gyda llun o'r AS Jo Cox, a gafodd ei llofruddio yn 2016, gyda'r neges: "Mae'r bobl anghywir yn cael eu llofruddio."
Roedd Lowe wedi cyfeirio at Ms Cox mewn e-bost bygythiol at AS Dwyfor Meirionydd mewn achos blaenorol, arweiniodd at ddedfryd o garchar yn 2020.
Wrth ei ddedfrydu yn yr achos diweddaraf ddydd Mercher, dywedodd y barnwr Gwyn Jones bod y diffynnydd "yn peri risg sylweddol o niwed".
Mae'r gorchymyn yn ei atal rhag cysylltu â Ms Saville Roberts - arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan - bod yn ei hetholaeth Dwyfor Meirionnydd, na chyhoeddi unrhyw beth amdani.
Mae hefyd yn cynnwys cyfyngiadau eraill ar ei ddefnydd o'r we.

Clywodd llys yn Llandudno bod negeseuon David Lowe wedi peri "pryder mawr" i Liz Saville Roberts a'i theulu
Dywedodd cyfreithiwr ar ran Heddlu Gogledd Cymru, Gareth Preston, fod merch yr AS wedi ffonio 999 ar 8 Tachwedd y llynedd wedi i Lowe gyhoeddi neges fygythiol am ei mam ar wefan X, gan grybwyll ble mae hi'n byw.
Yn ôl Mr Preston, fe amlygodd y diffynnydd "gasineb sylweddol" tuag at Ms Saville Roberts wrth gael ei holi.
"Fe gadarnhaodd ei fod yn hiliol," dywedodd, gan ychwanegu fod Lowe wedi cyfeirio at bobl fel "bradwyr".
Clywodd y llys bod sylwadau Lowe wedi peri "pryder mawr" i'r AS a'i theulu.
Doedd y diffynnydd ddim yn y llys ar gyfer y gwrandawiad.
Yn ôl Mr Preston, mae Lowe wedi dweud nad oedd yn poeni ynghylch gosod y gorchymyn, ac y byddai'n cydymffurfio â phenderfyniad y llys.
Rhybuddiodd y barnwr, yn absenoldeb y diffynnydd, y gallai wynebu hyd at bum mlynedd o garchar pe bai'r torri'r gorchymyn, a bydd yn rhaid iddo gofrestru gyda'r heddlu.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.