Merch 17 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad

Llun o'r A4042
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r ferch 17 oed ar yr A4042 yng Nghwmbrân ddydd Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae merch 17 oed o Gil-y-coed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A4042 yng Nghwmbrân.

Cafodd yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans eu galw i adroddiadau bod gwrthdrawiad rhwng tri char a cherddwr tua 12:25 ddydd Iau.

Bu farw'r ferch yn y fan a'r lle, ac mae ei theulu wedi cael gwybod.

Roedd y ffordd rhwng cylchfannau'r Crown a Turnpike ar gau yn rhannol wrth i Heddlu Gwent ymchwilio i'r digwyddiad.

Mae'r llu yn apelio ar unrhyw dystion i gysylltu â nhw, neu unrhyw un sydd â lluniau dash-cam perthnasol.

Dywedodd Cyngor Torfaen bod y ferch wedi bod yn derbyn cefnogaeth ganddyn nhw.

"Gan fod prosesau ffurfiol bellach ar waith, byddai hi'n amhriodol i ni rannu manylion pellach, ac rydym yn gofyn yn garedig i bobl osgoi dyfalu."

Pynciau cysylltiedig