Dyn a gafodd ei barlysu yn benderfynol o gerdded eto

Dan ac Anna yn eu cartref, yn gwenu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dan ac Anna wedi dychwelyd adref i Abertawe o'r Almaen dros yr ŵyl

  • Cyhoeddwyd

Pan aeth Dan Richards, 37, i nofio yn y môr Nos Galan 2023, doedd ganddo ddim syniad y byddai ei fywyd yn newid am byth.

Mewn damwain ddifrifol, fe gafodd anaf i'w wddf pan wnaeth ton ei droi ben i waered nes iddo daro'r tywod ym Mae Langland, Abertawe.

"Ro'n i'n gwybod yn syth fy mod wedi fy mharlysu," meddai, "do'n i ddim yn gallu symud dim byd".

Dywedodd meddygon wrtho y byddai'n gaeth i'w wely am byth - ond ddwy flynedd yn ddiweddarach - mae'n defnyddio cadair olwyn ac yn gallu symud ei freichiau a'i fysedd.

Mae hyd yn oed wedi cerdded gyda chymorth technoleg deallusrwydd artiffisial (AI) yng Nghymru a'r Almaen.

Ond mae'r ddamwain yn dal yn atgof hunllefus iddo a'i bartner, Anna, oedd yn dathlu'r flwyddyn newydd ar y traeth ar y pryd.

"Dwi'n cofio popeth yn anffodus. Cael fy nhynnu allan, ac yna popeth yn newid," meddai Dan.

Dan Richards yn defnyddio peiriant i gerdded. Mae'n sefyll ac yn gwenu.Ffynhonnell y llun, Anna Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dan wedi bod yn cael triniaeth arbenigol ac arbrofol yn yr Almaen

Ychwanegodd Anna fod Dan wedi galw arni am help wrth iddi baratoi i fynd i'r dŵr.

"Dwi'n cofio edrych draw a gweld pen Dan yn dod i fyny ac yna'n mynd yn ôl o dan y dŵr," meddai.

"Fe wnaethon ni ei lusgo allan. Ond roedd e'n drwm ac roedd y môr yn dod i mewn yn gyflym iawn.

"Fe wnaethon ni aros am y gwasanaethau brys, ac yna [dw i'n cofio] erfyn arnyn nhw i adael i fi fynd yn yr hofrennydd. Roedd e'n erchyll."

Ar ôl cael eu cludo i'r ysbyty, fe ddaeth meddygon â'r newydd gwaethaf i Dan ac Anna.

Dan ac Anna yn Ysbyty Treforys yn 2024
Disgrifiad o’r llun,

Dan ac Anna yn Ysbyty Treforys yn 2024

Dywedodd Dan: "Fe wnaethon nhw roi'r newyddion i fi fy mod i wedi fy mharlysu o'r gwddf i lawr, a 'fyddi di ddim yn gallu symud', ac 'mae'n debygol iawn y byddi di'n gaeth i'r gwely am weddill dy oes'."

Roedd yn rhaid i Anna - a oedd ond wedi dechrau perthynas gyda Dan ychydig fisoedd cyn y ddamwain - wneud galwadau ffôn i aelodau'r teulu.

"Sut ydych chi'n ffonio mam rhywun a dweud bod eu mab wedi'i barlysu?" meddai.

"Dyma ein realiti ni. Nes i chi fod yn y sefyllfa yma... dydych chi ddim yn sylweddoli faint ry'ch chi wedi'i golli."

Dan (chwith) ac Anna (dde) yn y môr cyn y ddamwain.Ffynhonnell y llun, Anna Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dan ac Anna wrth eu bodd yn nofio cyn y ddamwain

Ond yn y misoedd wedi'r ddamwain tra'r oedd Dan yn yr ysbyty, roedd y symudiad lleiaf ym mysedd ei draed yn rhoi gobaith iddyn nhw y gallai pethau wella.

"O'r teimlad yn fy mysedd traed, i deimlad llawn drwy fy nghoesau a fy nhraed, rhywfaint o symudiad yn fy nghoes dde. Symudiad yn fy mreichiau, fy mysedd, gallu dal pethau, rwy'n falch o'r cynnydd rydw i wedi'i wneud," meddai.

"Rwy'n dal yn obeithiol, rwy'n dal yn bositif. Gyda thechnoleg fodern, dydw i ddim am roi'r gorau iddi."

Cafodd Dan ffisiotherapi preifat mewn clinig arbenigol yn ne Cymru i'w helpu i gerdded gyda pheiriant oedd yn defnyddio technoleg AI.

Dan ac AnnaFfynhonnell y llun, Anna Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu a ffrindiau Anna a Dan wedi codi arian ar gyfer ei driniaethau preifat

"Daeth Dan atom ni ar ôl cael ei ryddhau o'r ysbyty. Mae'n ddyn hynod benderfynol," meddai'r niwroffisiotherapydd Jakko Brouwers o glinig Morello yng Nghasnewydd.

"Mae'r dechnoleg wedi ei rannu'n ddau. Y rhan gyntaf wnaethon ni roi cynnig arni gyda Dan yw'r robot. Mae'r robot yn dynwared cerdded dynol arferol cymaint â phosib," meddai.

Peiriant cerdded
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r peiriant wnaeth helpu Dan i gerdded yng nghlinig Morello yn Nghasnewydd

Ychwanegodd Mr Brouwers: "Y rhan arall o'r system yw siwt ysgogi sydd â synwyryddion. Mae electrodau hefyd wedi'u gosod ar y trowsus, a gallwn ni ysgogi gweithgaredd cyhyrau ar yr adeg iawn.

"Trwy ychydig bach o algorithm - ac AI - bydd yn dechrau datblygu patrwm cerdded.

"Mae'n gyffrous iawn. Nid yn aml y'ch chi'n gweld rhywbeth fel hyn yng Nghymru."

Dywedodd Dan fod y profiad wedi ei sbarduno i wneud ymchwil - a dod o hyd i driniaeth arloesol arall yn yr Almaen.

Dan ac Anna gydag arwydd Bochum yn yr AlmaenFfynhonnell y llun, Anna Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dan ac Anna wedi treulio deufis yn Bochum, Yr Almaen, i gael triniaeth

Gyda chwe wythnos o driniaeth ar ôl yn yr Almaen yn y flwyddyn newydd, bydd yn rhaid i Dan wneud cais am Fisa Meddygol, sy'n her arall y dywedodd ei fod yn benderfynol o'i goresgyn.

Mae'r dyfodol yn ansicr, ond mae'n benderfynol o gadw'n bositif.

"Mae ymchwil newydd yn anhygoel," dywedodd.

"Po fwyaf o gynnydd y galla' i wneud nawr, y gorau fydd ein dyfodol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig