Pryder bod cynnwys cyrsiau gwyddoniaeth yn 'hen ac amherthnasol'

Gwers wyddoniaethFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

O fis Medi 2026 fe all ysgolion gyflwyno cymwysterau gwyddoniaeth newydd fel rhan o'r cwricwlwm i Gymru

  • Cyhoeddwyd

Mae'n "hynod o siomedig" y bydd rhai plant yng Nghymru yn dilyn cyrsiau gwyddoniaeth sy'n "hen ac amherthnasol", yn ôl y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.

O fis Medi 2026 fe all ysgolion gyflwyno cymwysterau gwyddoniaeth newydd fel rhan o'r cwricwlwm i Gymru.

Ond ar ôl i gynllun fyddai'n cael gwared ar bynciau gwyddoniaeth unigol gael ei ohirio, bydd gwersi cemeg, ffiseg a bioleg yn gallu parhau tan o leiaf 2031.

O ganlyniad, mae'r corff arholi, CBAC wedi gwneud ychydig o newidiadau i gwricwlwm y pynciau gwyddoniaeth hynny.

Ond mae'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol wedi dweud nad yw'n mynd yn ddigon pell a bod rhannau o'r cwrs yn amherthnasol erbyn hyn.

Aled Mason
Disgrifiad o’r llun,

"Mae gwyddoniaeth yn dri phwnc gwahanol," ym marn Aled Mason

Dywedodd Delwen McCallum o'r gymdeithas fod angen tynnu rhai pethau o'r cwricwlwm a chyflwyno cynnwys newydd i'r pynciau gwyddoniaeth ar wahân, fel cynaladwyedd a newid hinsawdd

"Mae'r gyrfaoedd yma fod i dyfu 30% yn y wlad yma yn y blynyddoedd nesaf a fydd plant Cymru ddim efo gymaint o wybodaeth a chyfle os 'di nhw ddim yn astudio'r ardaloedd yma," meddai.

Mae'r holl gyrsiau TGAU sy'n cael eu cynnig i ddisgyblion rhwng 14 ac 16 oed yng Nghymru wedi eu hadolygu a'u diweddaru fel rhan o'r cwricwlwm newydd sy'n cael ei gyflwyno.

Mae'r cynllun gwreiddiol i gael gwared â'r pynciau gwyddoniaeth ar wahân wedi cael ei oedi am y tro gan y rheoleiddiwr, Cymwysterau Cymru.

'Dylen nhw barhau ar wahân'

Bydd yna gymwysterau newydd - TGAU dwbl gwyddoniaeth a sengl - yn cael eu cyflwyno o fis Medi'r flwyddyn nesaf.

Ond fe all ysgolion ddewis bod eu disgyblion yn parhau i astudio ffiseg, bioleg a chemeg fel cyrsiau ar wahân.

Dywedodd Aled Mason, sy'n bennaeth gwyddoniaeth yn Ysgol Bryn Tawe ar gyrion Abertawe, fod yna farn gymysg i barhau i gynnig y cwrs triphlyg gwyddoniaeth.

"Rwy'n gwybod beth mae cymwysterau Cymru yn ceisio ei wneud, yn clymu'r gwyddorau gyda'i gilydd i ddangos bod 'na gysylltiadau," meddai.

"Ond mae gwyddoniaeth yn dri phwnc gwahanol yn fy marn i ac mae nifer yn cytuno ac anghytuno gyda hynny… ac i fi ddylen nhw barhau ar wahân."

Ioan ac Ellis
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ioan ac Ellis o Ysgol Bryn Tawe eu bod yn mwynhau cynnwys y cwricwlwm TGAU presennol

Dywedodd rhai o ddisgyblion TGAU Ysgol Bryn Tawe eu bod yn mwynhau cynnwys y cwricwlwm presennol.

Dywedodd Gwenan, 16, fod y cwrs yn "agor cyfleoedd i bobl".

Mae Seren, 15, yn teimlo bod 'na fudd i astudio'r pynciau gwyddoniaeth ar wahân.

Mae Ellis, 17, yn dweud bod y cwrs gwyddoniaeth wedi rhoi "sylfaen" iddo ar gyfer astudio'r pwnc ar lefel Safon Uwch.

Gwenan a Seren
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwenan a Seren yn gweld gwerth mewn astudio'r pynciau ar wahân

Dywedodd Cymwysterau Cymru y bydd TGAU gwyddoniaeth ar wahân yn parhau i fod yn gymharol o ran maint i'r cymwysterau presennol.

"Bydd cynnwys y cwrs yn parhau i roi sylfaen gadarn o ddealltwriaeth wyddonol i ddysgwyr, gan eu galluogi i symud ymlaen i gymwysterau gwyddoniaeth Lefel AS a Lefel A, cymwysterau Lefel 3 eraill neu'n uniongyrchol i'r byd gwaith."

Dywedodd CBAC eu bod wedi cynnal arolwg gan ofyn os oedd angen gwneud unrhyw newidiadau i'r TGAU gwyddoniaeth presennol.

"Derbyniwyd nifer da o ymatebion oddi wrth ysgolion a rhanddeiliaid eraill ar draws Cymru, a phenderfynwyd felly y byddem yn gweithredu ar sail yr hyn a dderbyniodd y gyfran fwyaf o gefnogaeth gan ymatebwyr, sef newid yr uned ymarferol yn y cymwysterau yn unig," meddai llefarydd.

"Roedd bron dwy ran o dair o'r ymatebwyr, y rhan fwyaf ohonynt yn athrawon gweithredol, naill ai'n cefnogi'r opsiwn hwn neu'n ei gefnogi'n gryf. Derbyniodd yr opsiynau oedd yn gofyn am newid yr holl unedau fwy o wrthwynebiad na chefnogaeth."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig