Cyhuddo cefnogwyr Caerdydd o ganu caneuon homoffobig

Caerdydd yn erbyn ChelseaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y canu honedig o gwmpas ail funud y gêm yn erbyn Chelsea ym mis Rhagfyr

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi cyhuddo Clwb Pêl-droed Caerdydd yn sgil honiadau bod cefnogwyr yr Adar Gleision wedi canu caneuon homoffobig.

Fe ddigwyddodd yr ymddygiad honedig yn ystod colled Caerdydd o 3-1 gartref yn erbyn Chelsea yn rownd wyth olaf Cwpan y Gynghrair ar 16 Rhagfyr.

Dywedodd y gymdeithas mewn datganiad fod y clwb, yn honedig, "wedi methu a sicrhau nad yw cefnogwyr yn defnyddio iaith neu'n ymddwyn mewn modd amhriodol, sarhaus neu anweddus - gan gynnwys cyfeiriadau at gyfeiriadedd rhywiol".

Wrth ymateb dywedodd Caerdydd: "Mae'r clwb wedi ymateb i gyhuddiad yn ymwneud â chanu homoffobig gan leiafrif o unigolion yn ystod y gêm yn erbyn Chelsea.

"Fel clwb cynhwysol sydd wrth wraidd ei gymuned, rydym yn condemnio'n gryf y fath o iaith gafodd ei ddefnyddio gan yr unigolion ac rydyn ni'n cefnogi ymdrechion Heddlu'r De i ddwyn y bobl yma i gyfrif yn llwyr.

"... Nid oes unrhyw fath o wahaniaethu yn cael ei dderbyn gan ein clwb, ac fel hynny dylai fod mewn cymdeithas hefyd. Hoffem atgoffa cefnogwyr fod y fath ymddygiad yn anghyfreithlon ac y bydd yn cael ei drin fel hynny pryd bynnag y daw i'r amlwg."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.