'Mae rhywun yn gwybod pwy ddinistriodd bywyd fy mab'

Angela Main a Leon AdamsFfynhonnell y llun, Reach
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Angela Main bod ei mab yn "ddyn mor ddoniol" oedd "wedi brwydro gymaint dros y 23 mlynedd"

  • Cyhoeddwyd

Mae mam dyn a fu farw dau ddegawd wedi ymosodiad difrifol yng Nghaerdydd wedi gwneud apêl o'r newydd i ddod o hyd i'w lofrudd, gan fynnu bod "rhywun yn gwybod pwy ddinistriodd bywyd fy mab".

Bu farw Leon Adams fis Rhagfyr diwethaf, 23 mlynedd ar ôl iddo gael ei barlysu mewn ymosodiad ar Ddydd San Ffolant 2002 - digwyddiad a gyfrannodd at ei farwolaeth, yn ôl crwner.

Dywedodd ei fam, Angela Main: "Wnaethon nhw gymryd ei fywyd o ddwywaith - y tro cyntaf pan wnaethon nhw adael o yn y fath gyflwr, ac eto ar y diwedd, pan wnaeth o farw."

Dywedodd Heddlu'r De eu bod wedi derbyn gwybodaeth newydd ers marwolaeth Leon ac maen nhw'n annog yr un bobl i gysylltu â nhw eto.

Leon AdamsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Does neb wedi eu herlyn mewn cysylltiad â'r ymosodiad ar Leon yn Chwefror 2002

Roedd Leon yn 24 oed pan ddigwyddodd yr ymosodiad wedi iddo orffen noson o waith yn nhafarn The Cottage Inn ar Heol y Santes Fair.

Fe adawodd ei weithle am 23:45 ar 13 Chwefror 2002 - y noson chwaraeodd tîm pêl-droed Cymru yn erbyn Yr Ariannin yn Stadiwm y Mileniwm, fel yr oedd yn cael ei 'nabod ar y pryd.

Cafodd ei ddarganfod am 05:16 ar y diwrnod canlynol ger gorsaf drenau Grangetown gan lanhawr a oedd newydd orffen ei waith.

Dywedodd yr heddlu fod rhywun wedi cymryd ei gyflog o £138.

Cafodd tri dyn eu gweld yn dadlau ger yr orsaf tuag adeg yr ymosodiad.

Fe wnaeth yr achos ymddangos ar raglen Crimewatch y BBC ar ddau achlysur yn 2002 a 2013, ond does neb wedi eu herlyn mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Er bod lladrad wedi cael ei ystyried fel cymhelliad posibl, roedd natur greulon yr ymosodiad yn syfrdanol.

Bu Leon mewn coma am ddwy flynedd wedi'r digwyddiad, ac yna roedd angen gofal 24 awr arno am weddill ei fywyd.

"Fe wnaeth rhywun sathru ar ei wyneb," meddai Angela.

"Sathru mor galed ar ei wyneb ei fod o wedi achosi'r tetraplegia," sef y parlys dioddefodd Leon oherwydd y niwed i linyn yr asgwrn cefn.

"Dwi ddim yn gwybod sut y maen nhw'n gallu byw hefo'i hunain," ychwanegodd.

Leon AdamsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Leon Adams yn 2024

Er gwaethaf ei anafiadau, dywedodd Angela fod Leon wedi gallu cyfathrebu gan ddefnyddio technoleg arbenigol, a dywedodd ei fod yn parhau i ddangos ei "hiwmor drygionus".

Dywedodd ei fod o'n mwynhau comedi a cherddoriaeth, yn enwedig David Bowie.

"Roedd o'n seren go iawn - ac fe wnaeth o frwydro a brwydro," meddai.

Gallai unrhyw ddatblygiad yn yr ymchwiliad wneud bywyd "ychydig yn well" i'w deulu a dod â "chyfiawnder" hir-ddisgwyliedig i'w mab, meddai.

"Mae yna bobl allan yna sy'n gwybod pwy ydi o - mae'n rhaid bod 'na."

Llun CCTV yn dangos Leon Adams yn cerdded yng Nghaerdydd cyn yr ymosodiad arnoFfynhonnell y llun, Heddlu'r De
Disgrifiad o’r llun,

Llun CCTV yn dangos Leon Adams yn cerdded yng Nghaerdydd cyn yr ymosodiad

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Mark O'Shea fod ei dîm yn benderfynol o geisio datrys yr achos.

"Rydym wedi treulio'r 20 mlynedd diwethaf yn adolygu'r dystiolaeth ar wahanol adegau, wrth i wyddoniaeth wella," meddai.

"Cafodd llawer o dystiolaeth ei gasglu o'r lleoliad ac rydym yn obeithiol y bydd cyfle i ni ddysgu mwy wrth i wyddoniaeth ddatblygu."

Ychwanegodd ei fod yn siŵr bod yna bobl yng Nghaerdydd sy'n gwybod pwy oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad, gan gynnwys rhai oedd wedi bod mewn cysylltiad â'r heddlu yn ystod y 12 mis ers marwolaeth Leon.

"Cysylltwch â ni - mae ei fam yn haeddu cyfiawnder," meddai.

Dywedodd Heddlu'r De y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Crimestoppers.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.