Pobl ym Môn yn poeni am gynlluniau i newid trefniadau casglu biniau

Mae Cyngor Môn yn annog unrhyw un sydd â barn ar y cynllun i ymateb i'r ymgynghoriad
- Cyhoeddwyd
Mae rhai o drigolion Ynys Môn wedi codi amheuon am gynlluniau posib i newid casgliadau gwastraff cyffredinol, o unwaith bob tair wythnos i unwaith bob pedair.
Mae'n rhan o gynllun gan Gyngor Môn i wella faint o wastraff ar yr ynys sy'n cael ei ailgylchu, gyda bwriad hefyd i greu mwy o gyfleoedd i bobl wneud hynny.
Dim ond wyth o'r 22 o gynghorau sir yng Nghymru sydd ar hyn o bryd yn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru i ailgylchu 70% o'u gwastraff.
Mae Cyngor Môn yn annog unrhyw un sydd â barn ar y cynllun i ymateb i'r ymgynghoriad presennol.
'Dwi ond wedi rhoi un bag bin du mas eleni'
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2025
Pori drwy'r biniau wrth i Gymru geisio arwain ar ailgylchu
- Cyhoeddwyd20 Medi 2025
Môn: Ystyried casglu biniau yn fisol
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2015
Ar hyn o bryd, mae 65% o wastraff yr ynys yn cael ei ailgylchu neu ei ailddefnyddio.
Ond oni bai bod y cyngor yn cynyddu hynny i 70%, fe allen nhw wynebu dirwy o £350,000 gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys cynnig mwy o gapasiti a chyfleoedd i drigolion ailgylchu yn ogystal â chasglu gwastraff cyffredinol yn llai aml.

Dywedodd Huw Percy fod angen cwestiynu "os ydy'r drefn ailgylchu yn addas ar gyfer y dull modern" o ailgylchu
Yn ôl Pennaeth Prif Ffyrdd, Gwastraff ac Eiddo Cyngor Sir Ynys Môn, Huw Percy, mae'r ymgynghoriad yn gyfle i bobl ddweud eu dweud.
"Fel cymdeithas, 'da ni'n cael lot llai o bapur rŵan, papurau newydd a 'di biliau ddim yn dod ar bapur.
"Tra ar y llaw arall, ma' bobl yn archebu deunyddiau ar-lein.
"Felly, ma' hynny'n golygu mwy o gardfwrdd ac mae 'na gwestiwn ydy'r drefn ailgylchu yn addas ar gyfer y dull modern.
"Felly, 'sa ni'n croesawu trigolion Môn ar hynny," ychwanegodd Mr Percy.

Ar hyn o bryd Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr sy'n dod i'r brig o ran y gyfradd ailgylchu
Ond wrth holi pobl ar stryd fawr Llangefni, cymysg oedd y farn.
Yn ôl un gŵr lleol, mae'n deall yr angen am newid ond yn amau a fyddai'n gweithio.
"Dwi'n meddwl y byddai newid i bedair wythnos ddim yn ddewis poblogaidd efo pobl, ond eto mae gynnon ni dargedau statudol i hitio efo ailgychu."
Ond, dywedodd un ddynes ei bod yn poeni y gallai llai o gasgliadau arwain at lygod.
"Mae 'na ormod o wastraff yna, ma' llygod yn broblem fawr os nad oes 'na bins yn cael eu casglu bob tair wythnos.
"'Da chi methu ailgylchu popeth - mae'n amhosib."
Ond yn ôl un arall, mae'n gyfle am newid.
"Ella 'sa modd treialu sut mae hynny'n gweithio ac yna ymgynghori a gwneud penderfyniad ar y diwedd."

"Os 'da ni m'ond yn cael 50% yn rhoi gwastraff bwyd allan, fydd y total yn llai na be' ddylai o fod," medd Rebecca Colley-Jones
Ar hyn o bryd Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr sy'n dod i'r brig o ran y gyfradd ailgylchu, gyda 73% o'r gwastraff.
Ar waelod y tabl mae Cyngor Caerdydd gyda 60%.
Yn ôl yr Ymgynghorydd Amgylchedd, Rebecca Colley-Jones, mae angen gwella ailgylchu gwastraff bwyd ar draws Cymru.
"Weithiau dydy pawb ddim yn cymryd rhan wrth roi gwastraff bwyd nhw allan a dwi'n meddwl efallai fod pethau fel yna yn cael effaith.
"Os 'da ni m'ond yn cael 50% yn rhoi gwastraff bwyd allan, fydd y total yn llai na be' ddylai o fod," meddai Ms Colley-Jones.
Mi fydd yr ymgynghoriad ar agor i drigolion Môn tan 17 Chwefror.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.