Teulu wedi eu 'llorio' yn dilyn marwolaeth merch 21 oed yn Aberteifi

Corinna BakerFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Corinna Baker ei chanfod yn farw yn iard gychod Netpool

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu merch 21 oed a gafodd ei chanfod yn farw yn Aberteifi wedi eu "llorio" yn dilyn eu colled.

Cafodd Corinna Baker, 21 oed, ei chanfod yn farw yn iard gychod Netpool yn Aberteifi tua 12:35 brynhawn Sadwrn.

Mae dyn 29 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Mae'r heddlu'n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn ardal yr iard gychod, neu a welodd unrhyw un yno, ers 21:00 nos Iau 13 Tachwedd.

Blodau
Disgrifiad o’r llun,

Roedd nifer wedi gadael blodau yn Aberteifi fore Llun

Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd ei theulu: "Fel teulu, rydym wedi'n llorio yn dilyn colli Corinna annwyl.

"Roedd yn cael ei charu'n fawr, a bydd ei theulu a'r rheiny a gafodd y fraint o'i hadnabod yn gweld colled aruthrol ar ei hôl.

"Rydym yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i roi gwybod.

"Rydym yn gofyn i bawb i barchu ein preifatrwydd yn ystod y cyfnod hwn, a'n gadael ni i alaru mewn heddwch."

Mae'r heddlu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.

Len James
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Len James nad yw "wedi gweld dim byd tebyg 'ma erioed"

Dywedodd Len James, sydd wedi byw ger yr iard gychod ers 40 mlynedd, fod y gymuned wedi cael "sioc ofnadwy".

"O'n i'n gweitho ar fy nghwch i fan hyn, a da'th y police lawr," meddai.

"Tri police car, ambiwlans, o'n i'n ffaelu deall beth o'dd yn digwydd.

"O'n i ddim yn gwbod pwy wedd y ferch, ddim yn gwbod dim byd.

"Dy'n ni ddim wedi gweld dim byd tebyg 'ma erioed."

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol