Crystal Palace yn arwyddo Brennan Johnson am £35m

Brennan JohnsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Brennan Johnson wedi sgorio pedair gôl i Spurs y tymor hwn

  • Cyhoeddwyd

Mae ymosodwr Cymru, Brennan Johnson, wedi symud o Tottenham Hotspur i Crystal Palace am ffi o £35m.

Fe ymunodd Johnson â Spurs yn 2023, ar ôl symud o Nottingham Forest am £47.5m a sgoriodd y gôl hollbwysig i sicrhau eu buddugoliaeth yn rownd derfynol Cynghrair Europa y tymor diwethaf.

Ond mae cyfleoedd Johnson i serennu wedi bod yn fwy prin y tymor hwn dan arweiniad y rheolwr newydd, Thomas Frank - gyda'r Cymro yn sgorio pedair gôl mewn 22 o ymddangosiadau.

Gyda'r posibilrwydd o chwarae dros ei wlad yng Nghwpan y Byd yr haf hwn dal yn fyw, roedd yn awyddus i sicrhau rhagor o funudau ar y cae.

Dywedodd Johnson, 24, ei fod yn "edrych ymlaen at y bennod newydd" a'i fod yn gobeithio gallu helpu i ychwanegu at lwyddiant diweddar Crystal Palace.

Mae disgwyl i Johnson gael ei gynnwys yng ngharfan yr Eagles ar gyfer eu gêm yn erbyn Newcastle ddydd Sul.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.