'Rhywun yn mynd i farw ar ffordd brysur, a bai y llywodraeth fydd hynny'

ceir di parcio ger y caeau rygbi/peldroed a'r ffordd fawr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r terfyn cyflymder yn 20mya wrth adael canol tref Rhuthun ond yna mae'n treblu i 60mya lle mae'r caeau pêl-droed a rygbi

  • Cyhoeddwyd

"Mae rhywun yn mynd i gael ei anafu'n ddifrifol neu ei ladd a bai y llywodraeth fydd e."

Dyna eiriau un Aelod o'r Senedd sy'n dweud bod gweinidogion yn llusgo eu traed ar ddiogelwch ffyrdd.

Daeth y canllawiau presennol ar derfynau cyflymder i rym 16 mlynedd yn ôl, ac ni fydd rhai newydd yn dod i rym tan ar ôl etholiad y Senedd.

Mae dau glwb chwaraeon sydd wedi'u lleoli ar gyrion Rhuthun yn Sir Ddinbych yn dweud eu bod wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd i ostwng y terfyn cyflymder.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y gellir defnyddio'r canllawiau presennol o hyd i adolygu terfynau cyflymder nes bod y canllawiau newydd yn cael eu gweithredu.

Ceir di parcio, plant yn cerdded i hyfforddiant rygbi/peldroed
Disgrifiad o’r llun,

Bob penwythnos, bydd tua 300 o blant yn dod i gemau rygbi a phêl-droed a'u rhieni'n parcio ger y ffordd brysur

Mae'r A494 yn un o'r prif yn Rhuthun yn Sir Ddinbych.

Er y gall fod yn dawel yn ystod yr wythnos, mae'n stori wahanol bob penwythnos.

Dyna pryd mae o leiaf 300 o blant yn dod o dros yr ardal ar gyfer gemau rygbi a phêl-droed.

Y terfyn cyflymder wrth i chi adael y dref yw 20mya, ond yna mae'n treblu i 60mya, yn union lle mae'r caeau pêl-droed a rygbi lle mae'r plant yn dod i hyfforddi, a does dim croesfan yno chwaith.

Rhys Hughes, clwb rygbi a Wynne Davies, clwb peldroed
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhys Hughes o glwb rygbi'r dref a Wynne Davies,o'r clwb pêl-droed yn poeni mai "mater o amser yw hi" cyn y bydd damwain neu farwolaeth ar y ffordd brysur.

Wynne Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dydy'r sefyllfa ddim yn ddiogel, meddai Wynne Davies

Mae Wynne Davies o glwb pêl-droed y dref yn dweud ei fod yn annerbyniol: "Mae'n hynod beryglus.

"Mae gynnon ni deuluoedd sydd â phlant yn chwarae pêl-droed a rygbi ar yr un pryd, felly mae pobl yn croesi'r ffordd yn ystod yr amser y mae'r gemau'n cael eu chwarae.

"A phobl yn cyrraedd mewn ceir, plant yn gyffrous ar ôl teithio 'ma.

"Maen nhw'n cyrraedd yma ac yn methu aros i fynd allan i chwarae, felly maen nhw'n agor drysau'r ceir ac yn rhuthro ar draws y ffordd."

Rhys Hughes
Disgrifiad o’r llun,

"Mater o amser" ydy hi cyn bod damwain, meddai Rhys Hughes

Mae Rhys Hughes o'r clwb rygbi yn cytuno: "Mae gynnon ni gaeau pêl-droed ar draws y ffordd draw fan'na, mae gynnon ni 300 o blant yma ar y penwythnos sy'n chwarae rygbi, ynghyd â'r plant ychwanegol sy'n chwarae pêl-droed.

"Mae gynnon ni blant yn croesi ffyrdd," ychwanegodd, "mae angen i Lywodraeth Cymru ddatrys hyn, neu fe fydd na farwolaethau.

"Dim ond mater o amser yw hi."

'Bai y llywodraeth' os bydd damwain

Dywed AS Plaid Cymru, Llyr Huws Gruffydd, sy'n cynrychioli rhanbarth Gogledd Cymru, fod angen i weinidogion fynd i'r afael â hyn: "Mae wedi cyrraedd pwynt nawr lle mae hyn yn mynd yn chwerthinllyd.

"Rydw i wedi codi hyn ddwy, dair, bedair gwaith y flwyddyn am y ddwy, tair, pedair blynedd diwethaf, a phob tro, mae Llywodraeth Cymru yn ei gicio i'r gwair hir.

"Mae damwain yn mynd i ddigwydd. Mae rhywun yn mynd i gael ei anafu'n ddifrifol neu ei ladd a bai y llywodraeth fydd e."

Mae'r ymgyrch barhaus yn cael ei hadlewyrchu yn y ffaith bod Mark Drakeford wedi ymweld â Rhuthun pan oedd yn Brif Weinidog i drafod y mater, ac mae'r ymgyrch dros newid hefyd yn cael ei chefnogi gan yr aelod lleol, arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

A494 ger Rhuthun
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl a phlant yn gorfod croesi'r ffordd brysur yn gyson i gyrraedd y meysydd chwarae

Mae'r canllawiau cyflymder presennol wedi bod mewn grym ers 16 mlynedd, ond fis diwethaf dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Ken Skates wrth y Senedd na fydd y canllawiau newydd yn cael eu gweithredu tan ar ôl yr etholiad.

Dywed Llyr Huws Gruffydd fod hynny'n annerbyniol: "Maen nhw, yn ôl pob tebyg, yn dweud 'gadewch hi i'r Senedd nesaf', sy'n ymwrthod â'u cyfrifoldeb, oherwydd am bob diwrnod maen nhw'n oedi, mae mwy a mwy o fywydau mewn perygl."

ceir di parcio

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru fod opsiynau ar gyfer gwella'r A494 yn Rhuthun yn cael eu paratoi ar gyfer ymgynghoriad y flwyddyn nesaf.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates: "Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol ar ddiweddaru'r canllawiau nawr bod y terfyn cyflymder o 20mya ar waith."

"Rhaid iddo fod yn ymarferol, yn effeithiol ac yn addas at y diben," ychwanegodd, "ac mae ymdrech sylweddol yn cael ei gwneud i ymgysylltu, gwrando a gweithio gyda awdurdodau lleol i gyflawni hynny.

"Bydd yn cael ei brofi a'i ddiwygio yn unol â hynny.

"Yn y cyfamser, mae'r canllawiau presennol ar gael a gellir eu defnyddio i adolygu terfynau cyflymder."