Brechiad rhag brech yr ieir bellach ar gael i blant ifanc

Mae brech yr ieir (chickenpox), yn gyffredinol, yn salwch gymharol ysgafn ond mae'n gallu bod yn ddifrifol mewn rhai achosion
- Cyhoeddwyd
Am y tro cyntaf fydd plant ifanc ledled y DU yn cael cynnig brechiad am ddim rhag brech yr ieir.
Fe fydd plant yn cael cynnig dau ddos o'r brechlyn - sy'n cael ei gyfuno â'r brechlyn MMR, sy'n amddiffyn plant rhag y frech goch, clwy'r pennau a rwbella - pan yn 12 a 18 mis oed.
Fe fydd plant hyd at chwech oed - sydd heb gael eu brechu eisoes - yn cael cynnig brechiadau hefyd.
Mae arbenigwyr yn dweud y gallai'r brechlyn MMRV newydd leihau nifer y teuluoedd sy'n cael eu heffeithio gan frech yr ieir yn sylweddol, yn ogystal â lleihau nifer yr achosion mwyaf difrifol.
Mae'r brechlyn eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn sawl gwlad arall, gan gynnwys Yr Almaen, Yr Unol Daleithiau ac Awstralia.
Mae'r salwch yn gyffredinol yn gymharol ysgafn, ond mae'n gallu bod yn ddifrifol mewn rhai achosion.
Mae rhieni yn cael eu hannog i fynd â'u plant i'w apwyntiadau brechu pan fyddant wedi'u gwahodd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.