Ionawr Sych: O'n i'n alcoholig am 20 mlynedd, ond rŵan dwi'n helpu eraill

Chris Rees sefydlodd grwp ar-lein Sober Ninjas a grwp Caffi'r Ogia ym Mhenllyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Chris Rees wedi rhoi'r gorau i yfed alcohol ers 11 mlynedd

  • Cyhoeddwyd

Ar ddechrau blwyddyn newydd ac ar ôl cyfnod o wledda a dathlu i lawer dros y Nadolig, mae Ionawr yn gallu teimlo fel amser da i newid arferion.

Cynllun sy'n gynyddol boblogaidd ydy her Ionawr Sych - peidio yfed alcohol gydol y mis.

Ond i un dyn oedd yn gaeth i alcohol am 20 mlynedd, mae'r ymgyrch yn fwy na her am fis, wrth iddo ddweud ei fod yn beth "brilliant i bobl weld faint o effaith mae alcohol yn cael ar y corff".

Dywedodd Chris Rees o Bwllheli: "O'n i'n alcoholig am tua 20 mlynedd. Gafodd o afael go iawn arna fi dros y blynyddoedd."

Ond erbyn hyn mae'n helpu miloedd o bobl eraill i brofi'r manteision o roi'r gorau i alcohol.

Mae Alcohol Change UK, dolen allanol yn dweud bod manteision lleihau faint o alcohol mae person yn ei yfed yn cynnwys bod â mwy o egni a chael cwsg gwell, i leihau'r risg o ddatblygu canser neu gael strôc.

'Nath y cyrsiau newid fy mywyd i'

Am flynyddoedd roedd Chris Rees, sy'n 51, yn ddibynnol ar alcohol.

"Nath un neu ddau o bethau ddigwydd mewn bywyd pan nes i ddefnyddio alcohol fel ffordd o ddelio efo emosiwn," meddai ar raglen Dros Ginio.

"Gefais i lot o broblemau iechyd yn diwedd oherwydd yr alcoholiaeth - clot gwaed yn y goes, y pancreas, canser gwaed, chronic pancreatitis ac yn y diwedd ar ôl dinistrio pancreas, dwi rŵan yn type 1 diabetic, gafodd o afael go iawn yndda fi am flynyddoedd.

"Dwi'n lwcus iawn, nes i ddechrau dod allan yr ochr arall ac o'n i'n lwcus ofnadwy cael mynd ar gyrsiau i ddeall be' ydy alcoholiaeth, sut ma'n gweithio, sut mae'r corff yn delio efo fo a nath 'neud y cyrsiau yma newid fy mywyd i.

"Mwy o'n i'n deall am addiction ac alcoholiaeth, hawsa oedd o i ddeall be' o'n i'n mynd drwodd."

Beth yw manteision Ionawr Sych?

Mae Alcohol Change UK yn dweud bod y newidiadau i'w gweld o fewn wythnos, yn cynnwys bod â mwy o egni a gallu canolbwyntio'n well.

Wrth i'r wythnosau basio, mae'r manteisio eraill yn cynnwys:

  • Gwella safon cwsg

  • Gallu meddwl yn gliriach a chofio pethau'n well

  • Colli pwysau

  • Lleihau risg o rai mathau o ganser, strôc a chlefyd y galon

  • Pwysau gwaed is

  • Cryfhau'r system imiwnedd

Ffynhonnell: Alcohol Change UK, dolen allanol

'Ffantastig o beth'

Yn 2017 sefydlodd Chris grŵp ar-lein sy'n dod â phobl â dibyniaeth at ei gilydd i siarad a chymdeithasu.

Mae gan grŵp Sober Ninjas bellach 3,000 o aelodau o bob rhan o'r byd.

Roedd Chris yn awyddus i rannu ei brofiad ar ôl bod ar y cyrsiau a deall mwy am y salwch, ac roedd eisiau "rhannu ei wybodaeth gyda gymaint o bobl a fedra i".

"Mae alcohol yn toxic, mae'n wenwyn i'r corff ond mae o wedi cael ei normalisio gan gymaint efo society, 'di pobl ddim yn gweld yr effaith mae'n gael tan ma' nhw'n rhoi'r gorau iddi, a wedyn ma' nhw'n gweld faint ma' nhw'n teimlo mor well ar ei ôl o."

Mae ymgyrch Ionawr Sych wedi bodoli ym Mhrydain ers dros ddegawd - 4,000 o bobl oedd yn rhan o'r ymgyrch wreiddiol gan Alcohol Change UK, erbyn y llynedd roedd 200,000 o bobl wedi cymryd rhan.

Mae Chris yn dweud bod yr ymgyrch yn "wych", ac yn "ffantastig o beth", wrth iddo weld aelodau newydd yn ymuno gyda'i grŵp ym mis Ionawr.

Dywedodd Chris bod y manteision o beidio ag yfed alcohol i'w gweld yn syth: "Mae cwsg nhw'n well, appetite ac egni nhw'n well, teimlo'n well - y positives yma i gyd.

"Mae'n beth briliant i gael pobl i weld faint o effaith mae alcohol yn cael ar y corff."

Ers mis Awst llynedd mae Chris yn gweithio fel gweithiwr cefnogi mewn tŷ i ddynion ifanc.

Mae'n gwneud shifftiau 24 awr fel bod rhywun ar gael i'w cefnogi drwy'r amser.

Yr haf diwethaf mi gychwynnodd grŵp Caffi'r Ogia hefyd - grŵp i ddynion ym Mhen Llŷn i'w helpu i drafod eu problemau a gwella iechyd meddwl.

"O'n i isio lle i'r dynion yn yr ardal ddod at ei gilydd i siarad, 'neud gweithgareddau, marathons, chwarae snwcer, dringo.

"Dwi'n trio 'neud rhywbeth am y stigma efo dynion ddim yn siarad."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig