Beth yw'r allwedd i gariad? Cyplau Cymru sy'n ateb y cwestiwn mawr

Mae Alwena a Gwyn Lewis wedi mynychu pob Eisteddfod ers cwrdd yn 1982
- Cyhoeddwyd
"Dwy galon, un dyhead, dwy dafod ond un iaith."
Geiriau enwog Dic Jones sydd wedi eu llefaru ym mhriodasau nifer fawr o gyplau ar hyd a lled Cymru dros y blynyddoedd.
Mae cariad a'r awydd dynol i gyd-fyw gydag eraill wedi ysbrydoli ein beirdd a cherddorion pennaf ers canrifoedd.
Ond beth yw'r gyfrinach i gariad hir oes?
'Wynebwch broblemau gyda'ch gilydd'
Mae penodau cyntaf stori Gwyn ac Alwena Lewis yn dechrau ar fws i Eisteddfod Abertawe yn 1982.
Roedd yna gadair wag wrth ymyl Gwyn, wrth i'r ddau ddechrau eu taith i gasglu eu gwisgoedd i'r Orsedd.
"Mi ddoth y ferch landeg 'ma o Sir Drefaldwyn i mewn i'r bws a'i gwynt yn ei dwrn a chwilio am sedd ar y funud olaf a landio wrth fy ochr i," cofiai Gwyn, cyn-athro yn Ysgol Maes Garmon.
Wedi misoedd o lythyru, ffonio o'r kiosk ar brom Aberystwyth, a chwrdd ym Machynlleth, rhwng eu cartrefi, mi oedd y pâr wedi dyweddïo.
42 o flynyddoedd yn ddiweddarach, maen nhw bellach wedi ymddeol ac yn mwynhau bywyd gyda'u teulu yng Nghaernarfon.
"Mae'n rhaid gweithio ar bethau yng nghanol prysurdeb - bysai'n hawdd iawn, iawn i bethau fynd i rigol," meddai Gwyn.
"'Da ni'n agored iawn gyda'n gilydd, wynebau problemau a heriau gyda'n gilydd."
Ychwanegodd Alwena eu bod nhw'n ceisio "cadw spark" a magu rhamant trwy neilltuo cyfnodau gyda'i gilydd ar gyfer mwynhau eu diddordebau.
Mae'r cwpl yn cofio rhieni Alwena yn dathlu 70 o flynyddoedd o briodas, gan gynnig "rôl model" iddyn nhw.
"Mae o'n rhoi rhyw waelodlin dwi'n meddwl i ni hefyd i ddilyn 'lly," meddai Alwena.
"Dwi'n credu bod hynny yn lot o'ch magwraeth chi, sut chi 'di cael eich magu, os 'da chi 'di gweld cartref hapus a hir oes."
'Sortiwch eich gwahaniaethau barn ar unwaith'

Mae Alan a Mair Hicks o Abertawe wedi bod yn briod ers 1951
Eleni mi fydd Mair ac Alan Hicks o Abertawe yn dathlu eu 65 o flynyddoedd o briodas ar ôl cwrdd mewn clwb badminton yn y 50au.
Roedd y ddau yn eu harddegau ac yn mwynhau dawnsio i roc a rôl.
Nawr yn eu 80au, mae'r cwpl yn cofio blynyddoedd hapus gyda'u dwy ferch.
"Os oes gennych chi wahaniaeth barn, sortiwch hi ar unwaith," meddai Alan, 88 oed.
"Rydym wedi cael gwahaniaethau, wrth gwrs, ac, os yw unrhyw gwpl yn dweud dy' nhw ddim, fyddwn i byth yn eu credu."
Er gwaethaf "yr amseroedd pryderus", mae'r cwpl yn dweud eu bod nhw wedi rhannu cyfnodau gwych gyda'r capel wrth galon eu bywydau.
Ychwanegodd Mair: "Cyn belled eich bod chi gyda'ch gilydd, mae popeth yn iawn."
Cwis: Cariad
- Cyhoeddwyd24 Ionawr

Mae Delyth ac Alun Williams wedi bod gyda'i gilydd ers dros 60 flynyddoedd
Mi oedd Alun a Delyth Williams o ardal Abertawe wedi cwrdd yn 1959 yng nghlwb ieuenctid y pentref.
"Mae'n rhaid gweithio gyda'ch gilydd," meddai Alun, 84 oed.
Yn ôl Delyth, 80 oed, dyw bywyd ddim wastad yn hawdd ond mae cryfder i'w ddarganfod o gefnogaeth y teulu.
"Ni wedi bod yn lwcus iawn," meddai Delyth.
'Byddwch yn ffrindiau gorau'
Rhamant yn y swyddfa 20 o flynyddoedd yn ôl yw hanes Siân a Trystan Francis o Gaerdydd.
"Daethon ni'n ffrindiau really da yn y swyddfa. O'n i'n edrych 'mlaen at ddod mewn i'r gwaith pan o'dd e 'na," meddai Siân, 43 oed.
Priododd y cwpl yn 2012 a bellach mae gyda nhw dau o blant, Mimi a Jac.

Mae Trystan a Siân bellach yn rhedeg cwmni gyda'i gilydd ac yn magu eu plant
"Ni'n gweithio gyda'n gilydd, ni'n byw gyda'n gilydd, ni'n treulio lot o amser gyda'n gilydd," meddai Trystan, 45 oed.
"Felly diolch byth bo' ni'n ffrindiau gorau.
"Mae Siân wastad wedi 'neud i fi deimlo bod hi'n caru fi a bo' fi'n berson amazing."
Yn ôl Siân, dyw Trystan ddim yn hoffi mynd i'r gwely heb ddatrys unrhyw ddadlau.
"Ni wastad yn sortio fe mas cyn mynd i gysgu, hyd yn oed os yw Siân yn esgus bod ni wedi sortio fe er mwyn gallu mynd nôl i gysgu."
"S'dim un o ni'n deffro mewn mood gwael," meddai Siân.
'Chwerthin diddiwedd yw'r allwedd'

Mae tipyn wedi newid i Rhys a Kate ers iddyn nhw gwrdd 14 o flynyddoedd yn ôl
Roedd Kate Ritchie Lewis o'r Rhondda wedi cwrdd â'i gŵr, Rhys Lewis, pan ddechreuodd fel athro cyflenwi yn yr ysgol yr oedd hi hefyd yn dysgu ynddi.
"O'dd pethau ddim wedi mynd dan y radar gyda'r staff," cofiai Kate, 40 oed, wrth adlewyrchu ar ddyddiau cynnar eu perthynas.
"O'dd e fod yn fling oherwydd roedd e'n mynd i fyw yn Ne Corea.
"O fewn mis, o'n i'n gadael i fynd gyda fe. Aethon ni i Fietnam yn y diwedd."
Ar ôl priodi yn 2019, fe dreuliodd Kate a Rhys dros chwe blynedd yn ceisio beichiogi cyn penderfynu dechrau triniaeth IVF.
"Pan chi'n mynd trwy lot gyda rhywun, mae'n cliché ond mae e'n naill ai'n torri chi neu mae'n 'neud chi'n gryfach."
Yn 2024 mi oedd eu gefeilliaid Eirian Alaw a Gwenllian Awel wedi cyrraedd y byd.
Yn ôl Kate, "chwerthin diddiwedd" yw'r gyfrinach i'w perthynas nhw.
"Ni'n ffrindiau. Ni'n bartneriaid cyn unrhyw beth arall."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.