Arestio gyrrwr wedi marwolaeth dyn 43 oed ger Y Bala

A494 Bala
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A494 ar gyrion Y Bala nos Fercher

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 38 oed wedi cael ei arestio ar ôl i ddyn 43 oed farw ar ôl cael ei daro gan gerbyd ger Y Bala.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar yr A494 yn ardal Llanfor toc wedi 23:40 nos Fercher.

Bu farw'r dyn 43 oed, oedd yn cerdded ar hyd y ffordd pan gafodd ei daro, yn y fan a'r lle.

Cadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru nos Iau eu bod wedi arestio dyn 38 oed ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Mae eu hymchwiliad i'r digwyddiad yn parhau, ac maen nhw'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r llu.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig