Newid cystadlaethau Eisteddfod yr Urdd wedi dod yn 'rhy hwyr'

Mae newid rheolau i gystadlaethau'r Urdd yn wynebu beirniadaeth
- Cyhoeddwyd
Mae rhai hyfforddwyr cerddorol wedi eu gwylltio gan newid i gystadlaethau Eisteddfod yr Urdd.
Gyda rhai Eisteddfodau Rhanbarth i'w cynnal ychydig wythnosau ar ôl Nadolig, mae nifer o berfformwyr ifanc eisoes wedi dewis a dysgu eu darnau ar gyfer Eisteddfod Ynys Môn fis Mai.
Ond mae newid rheolau ar hyd amser y darnau wedi codi gwrychyn.
Dywed Urdd Gobaith Cymru eu bod wedi ceisio rhoi rhybudd i gystadleuwyr.
Dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Er mwyn ein galluogi i ddarlledu pob cystadleuaeth o fewn yr oriau darlledu, ac o fewn cyllideb, rydym yn derbyn y bydd rhaid cyfyngu rhywfaint ar rai cystadlaethau."

"Os dwi methu 'neud hyn i weithio, fyddai ddim yn cystadlu", meddai Dylan Williams
Mae Dylan Williams yn athro cerdd sy'n dweud bod 150 o'i ddisgyblion wedi cystadlu mewn eisteddfodau'r Urdd eleni.
Ond mae'n dweud ei bod hi'n bosib na fyddan nhw'n medru cystadlu'r flwyddyn nesaf.
"Y plant ydi'r bobl bwysicaf wrth gwrs," meddai. "A'r bobl sy'n dysgu nhw a'r oriau o waith maen nhw'n rhoi i mewn - heina di'r bobl bwysig a ma' isio cofio hynna."
Ychwanegodd: "Os dwi methu neud hyn i weithio, fyddai ddim yn cystadlu."

Dywedodd Gwern fod "unrhyw newid yn gallu effeithio'n fawr" ar berfformiadau
Fel rhan o'r newid mae rhai cystadlaethau - er enghraifft Ensemble Lleisiol Blwyddyn 10 a dan 19 oed - oedd yn caniatáu perfformiad pum munud o hyd bellach wedi ei gwtogi i dri munud.
Mae newidiadau eraill yn cynnwys cwtogi perfformiad Unawd Pres Blwyddyn 7, 8 a 9 o bum munud i bedwar munud ac Unawd Llinynnol Blwyddyn 10 a dan 19 oed o saith munud i chwe munud.
Yn ôl un o ddisgyblion Dylan Williams, mae amser ymarfer eisoes wedi ei "wastraffu".
Dywedodd Gwern fod "unrhyw newid yn gallu effeithio'n fawr" ar berfformiadau a'i fod yn "golygu lot o newid i'r gwaith ymarfer".

"Mae'n rhy hwyr yn y diwrnod i newid rhaglenni plant," meddai Jane Parry
Athro cerdd sy'n rhwystredig gydag amseru'r newid ydy Jane Parry.
Dywedodd: "Mae'n rhy hwyr yn y diwrnod i newid rhaglenni plant ar y stage yma.
"Mae'n Ddolig, maen nhw'n paratoi ar gyfer sioeau Dolig ac mewn gwirionedd rhyw chwech neu saith gwers tan Eisteddfod sir ni yn Cylch Eryri - sy'n gylch andros o gryf lle mae lot yn cystadlu ac mae pawb isio bod ar eu gorau."
'Costau wedi cynyddu'
Mewn datganiad dywedodd Urdd Gobaith Cymru bod "Eisteddfod yr Urdd wedi tyfu a datblygu dros y blynyddoedd diwethaf, ac oherwydd hynny, mae'r costau sydd yn dod law yn llaw â darlledu'r ŵyl wedi cynyddu hefyd".
"Ers pedair mlynedd, mae'r Urdd wedi ymrwymo i roi llwyfan i bob aelod sy'n cyrraedd y Genedlaethol, a gwneud yn siŵr eu bod nhw'n cael cyfle perfformio o'r safon uchaf.
"Er mwyn gallu parhau i sicrhau Llwyfan i Bawb, a bod yr holl berfformiadau ar gael i'w gwylio'n llawn ar bob diwrnod o'r ŵyl, rydym wedi gorfod gwneud addasiadau i hydoedd rhai cystadlaethau hunan-ddewisiad.
"Rydym yn cydnabod ac yn deall bod y newid hwn i'r Rhestr Testunau o bosib yn medru achosi rhwystredigaeth, ond rydym wedi gwneud popeth posib i roi rhybudd i'n cystadleuwyr cyn eu perfformiad cyntaf, wrth i'r system gofrestru fynd yn fyw.
"Os ydy'r cystadleuydd dros amser mewn Eisteddfod Gylch / Rhanbarth yna nodir hyn ar ei feirniadaeth a cheir gwybod ar lafar gan drefnydd yr Eisteddfod honno. Bydd yn rhaid addasu'r perfformiad erbyn yr Eisteddfod nesaf.
"Erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol ni chaniateir i unrhyw berfformiad fod dros yr amser a nodir ac ni fydd modd derbyn gwobr os yw hyn yn digwydd. Felly bydd cyfle i addasu rhwng yr Eisteddfod Gylch/Rhanbarth a'r Genedlaethol os oes angen."
S4C yn derbyn bod rhaid cyfyngu amser
Dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Mae S4C yn cefnogi ymrwymiad yr Urdd i roi llwyfan i bob cystadleuydd sy'n cyrraedd yr Eisteddfod Genedlaethol.
"Fel partner darlledu, rydym wedi buddsdoddi cryn dipyn dros y blynyddoedd diwetha' gan ehangu'n oriau darlledu yn sylweddol drwy ffrydio'r cystadlu o bob llwyfan ar draws yr wythnos.
"Er mwyn ein galluogi i ddarlledu pob cystadleuaeth o fewn yr oriau darlledu, ac o fewn cyllideb, rydym yn derbyn y bydd rhaid cyfyngu rhywfaint ar rai cystadlaethau."
"Rydym yn parhau i ehangu ein darpariaeth darlledu o'r Eisteddfod yr Urdd drwy gefnogi'r cynlluniau i ymestyn cyfnod yr ŵyl yn 2026."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Medi 2025

- Cyhoeddwyd8 Medi 2025
