Bro Myrddin: Rhyddhau bachgen ar fechnïaeth wrth i ymchwiliad barhau

Cafodd Ysgol Bro Myrddin ei rhoi dan glo brynhawn Mercher
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 17 oed wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o fygwth lladd.
Cafodd ei arestio yn dilyn digwyddiad wnaeth achosi i ysgol uwchradd yng Nghaerfyrddin i gloi ei drysau.
Bu Ysgol Bro Myrddin dan glo brynhawn Mercher yn dilyn adroddiadau bod disgybl wedi cael ei fygwth, meddai Heddlu Dyfed-Powys.
Mae amodau ei fechnïaeth yn golygu bod y bachgen o Gaerfyrddin wedi cael ei atal rhag mynychu Ysgol Bro Myrddin.
Mae'r amodau hefyd yn cynnwys cyrffyw gyda'r nos a bydd yn gorfod trosglwyddo unrhyw ddyfeisiau digidol i'r heddlu os ydyn nhw'n gofyn, er mwyn eu hadolygu.
Dywedodd yr heddlu nad ydy'r bachgen a gafodd ei arestio yn fyfyriwr yn yr ysgol ac na chafodd ei arestio yno chwaith.
Ychwanegon nhw fod swyddogion yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2025
