Cymro yw'r cyntaf erioed i gael ei enwebu am ddwy wobr Waterstones

Mae dau o lyfrau plant Huw Aaron wedi'u henwebu mewn dau gategori gwahanol
- Cyhoeddwyd
Cymro a newidiodd ei yrfa o fod yn gyfrifydd i fod yn awdur a chartwnydd yw'r person cyntaf erioed i gael ei enwebu am ddwy wobr llyfrau plant Waterstones.
Penderfynodd Huw Aaron mai gyrfa mewn ysgrifennu ac arlunio oedd yn mynd â'i fryd yn hytrach na ffigyrau a chyfrifon.
Mae'n awdur cyhoeddedig bellach, ac mae dau o'i lyfrau plant wedi'u henwebu mewn dau gategori gwahanol.
Mae Sleep Tight Disgusting Blob wedi cael ei enwebu yn y categori am lyfrau wedi'u darlunio, a'i nofel graffeg Unfairies yn y categori ar gyfer plant iau.
Mae'r ddau lyfr ar gael yn Gymraeg hefyd, sef Nos Da, Blob ac Y Tylwyth Annheg.
'O'n i ddim yn dda iawn fel cyfrifydd!'
Mae'r gwobrau yn cael eu cynnal ers 22 mlynedd a dywedodd Huw Aaron ar raglen Dros Frecwast ei fod yn teimlo'n "gyffrous" o gael ei enwebu.
"Mae wastad yn neis cael enwebiad ar gyfer pethau fel hyn, felly i gael dau enwebiad, mae'n ffab," meddai.
"O'n i wastad yn hoffi arlunio a gwneud cartŵns a lluniau doniol, ond falle byth 'di ystyried hwnna fel gyrfa."
O ran newid gyrfa, mae Huw yn cyfaddef nad oedd yn mwynhau gwaith fel cyfrifydd.
"O'n i ddim yn dda iawn fel cyfrifydd i fod yn onest!" meddai.
"O'dd 'da fi spreadsheets oedd yn lliwgar iawn, ond falle oedd y rhifau ddim yn adio lan, sydd ddim yn ideal!
"Nes i jysd mynd ati a dechrau danfon off y cartŵns yma i gylchgronau gwahanol, a dyna sut dechreuodd e."
Fy stafell i: Y darlunydd a chartwnydd Huw Aaron
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2019
Pa lyfrau sydd ar restr fer gwobrau Tir na n-Og?
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2025
Mae Huw yn gweithio'n agos iawn gyda gwasg Penguin erbyn hyn, gyda'i lyfrau Cymraeg wedi'u cyhoeddi gan Y Lolfa.
Dywedodd ei fod yn ddiolchgar iawn i wasg Y Lolfa am eu cefnogaeth a'u "hagosatrwydd", wrth iddo gymharu gweithio yn y Gymraeg a'r Saesneg.
"Yn y bôn dwi'n meddwl mae o'r un peth - dwi'n eistedd wrth fy nesg yn trio meddwl am syniadau ac wedyn arlunio nhw - felly ar un llaw mae'n debyg iawn.
"Ac wedyn mae'n wahanol hefyd.
"Mae agosatrwydd 'da chi'n cael ym myd cyhoeddi Cymru yn rhywbeth hyfryd - i ffonio rhywun lan a danfon syniadau a chael adborth yn syth.
"Yn y bôn, mae pobl sy'n caru llyfrau yn debyg ble bynnag y'ch chi.
"Mae'r bobl sydd yn y diwydiant, boed yng Nghymru neu tu hwnt, yn bobl sydd jysd yn caru darllen a charu llyfrau."
Bydd seremoni wobrwyo gwobrau Waterstones yn cael ei chynnal ar 26 Mawrth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.