54 o ddefaid wedi cael eu dwyn o goleg amaethyddol

Cafodd y defaid eu dwyn o dir ger Goleg Cambria Llysfasi
- Cyhoeddwyd
Mae heddlu cefn gwlad gogledd Cymru yn annog pobl i edrych ar luniau teledu cylch cyfyng a chamerâu cerbydau ar ôl i 54 o ddefaid gael eu dwyn o Goleg Cambria Llysfasi yn Sir Ddinbych.
Fe gafodd y defaid Texel cymysg eu cymryd o dir wrth ymyl safle'r coleg amaethyddol ger Rhuthun rhwng 16:00 ddydd Gwener a bore Sadwrn yr wythnos ddiwethaf.
Mae'r heddlu yn apelio ar bobl i gysylltu â nhw os ydyn nhw wedi gweld lori anifeiliaid neu drelar neu unrhyw beth amheus yn yr ardal.
Ychwanegodd yr heddlu ei bod yn annhebygol iawn i ffermwyr fod yn llwytho defaid i drelar yn y tywyllwch.
Mae Coleg Cambria Llysfasi yn cynorthwyo'r heddlu gyda'r ymholiadau ac yn annog y cyhoedd i gadw llygad am unrhyw beth amheus yn yr ardal.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.