Pryderon tirlithiad i gau ffordd yr A469 am ddwy flynedd

Dim ond un ochr o'r A469 sydd ar agor ger Pontlotyn ers 2020 er mwyn lleihau pwysau'r traffig ar hyd y ffordd sydd a thyllau ynddi
- Cyhoeddwyd
Bydd rhan o ffordd yr A469 yn Sir Caeffili yn cau am hyd at ddwy flynedd eleni yn sgil pryderon bod y mynydd uwchben y brif ffordd ger Pontlotyn yn symud.
Wedi degawd o fesurau dros dro ar hyd y ffordd yng ngogledd cwm Rhymni i atal y sefyllfa rhag waethygu, bydd gwaith i drwsio'r lôn yn cychwyn yn yr hydref.
Ond mae rhai busnesau lleol yn bryderus y bydd cau'r ffordd am ddwy flynedd yn ergyd enfawr iddyn nhw, er eu bod yn cytuno gyda'r angen i gwblhau'r gwaith.
Bydd y prosiect yn costio mwy nag £20m yn ôl Cyngor Sir Caerffili.
'Dim opsiwn arall'
Mae glaw trwm cynyddol dros y blynyddoedd diwethaf wedi cyflymu faint mae'r tir yn symud uwchben y ffordd rhwng pentrefi Tir-phil a Phontlotyn.
Mae gwaith monitro'r ffordd yn parhau ers 2014 ac fe gaewyd un lôn yn 2020 yn sgil effaith glaw trwm Storm Dennis ar y tir.
Yn ôl adroddiad diweddar gan y cyngor, mae yna risg o dirlithiad yn yr ardal os nad oes gwaith yn cychwyn yn fuan i wneud ochr y mynydd a'r ffordd yn fwy diogel.
Heb unrhyw waith cynnal a chadw, fe allai fod "tirlithiad trychinebus" a fyddai'n "achosi peryg i fywydau".
Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Caerffili, Jamie Pritchard: "Mi fydd y gwaith yn effeithio ar fusnesau a phobl leol am gyfnod hir ond mae'n holl bwysig ein bod ni'n cwblhau'r gwaith pwysig yma yng ngogledd Cwm Rhymni er mwyn diogelu cymunedau.
"Dyma'r unig ffordd sy'n cysylltu cymunedau yn yr ardal felly does yna ddim opsiwn arall ond i gau'r ffordd i wneud y gwaith."

Bydd taith Tom Reynolds i'w gweithle yng Nghaerffili yn cymryd tua 20 i 25 munud yn fwy o ganlyniad i'r dargyfeiriad pan mae'r ffordd yn cau
Mae perchnogion busnesau ym Mhontlotyn yn pryderu y bydden nhw'n colli cwsmeriaid o ganlyniad cau'r ffordd am gyfnod mor hir.
"Bydd yr effaith yn fawr - dim cymaint o gwsmeriaid yn galw mewn wrth iddyn nhw deithio drwy'r pentref," meddai'r perchennog siop sglodion, Julian Harris.
Bydd miloedd o deithwyr yng ngogledd y cwm yn cael eu heffeithio hefyd, gan gynnwys Tom Reynolds, sy'n teithio ar hyd yr A469 bob dydd i'w swydd yn Ysgol y Gwyndy yng Nghaerffili.
"Byswn i'n disgrifio'r ffordd fel rollercoaster achos ma fe mor lan a lawr erbyn hyn," dywedodd.
"Dwi ddim yn credu ei fod yn ffordd diogel iawn ond mae'r ffaith bod mesurau yn eu lle, fel gostwng y cyflymder a chyflwyno goleuadau traffig, wedi helpu i wneud hi'n ddigon diogel i geir am y tro."

Roedd ychydig o gannoedd o bobl yn arfer byw yn Nhroedrhiwfuwch ar hyd yr A469 cyn i'r tai cael eu dymchwel yn sgil pryderon tirlithiad uwchben y pentref
Mae ffordd yr A469 rhwng Tir-phil i'r de a Phontlotyn i'r gogledd â hanes hanes hir o bryderon tirlithiad, yn rhannol oherwydd blynyddoedd o fwyngloddio yn yr ardal.
O ganlyniad, fe gafodd pentref Troedrhiwfuwch ei ddymchwel yn yr 1980au, gan gynnwys yr ysgol a thafarn. Dau dŷ yn unig sydd ar ôl.
Roedd Sheryl Diggle yn arfer byw yn y pentref ac yn cofio'r awyrgylch trist pan glywodd eu cymdogion bod eu cartrefi am gael eu dymchwel oherwydd pryderon bod y mynydd uwchben yn symud.
"Doedd gen i lawer o ots ar y pryd, achos roeddwn i eisiau symud i fyny'r cwm," meddai, "ond rwy'n cofio'r tristwch yn y pentref ar y pryd wrth i bobl darganfod y bydden nhw'n colli eu cartrefi."

Mae Sheryl Diggle yn cofio tristwch pentrefwyr Troedrhiwfuwch pan gawson nhw eu gorfodi o'u cartrefi yn y 1980au
Mae Cyngor Sir Caerffili'n cyfaddef y bydd cau rhan o'r brif ffordd drwy'r cwm yn effeithio ar fusnesau naill pen y ffordd.
Yn ôl adroddiad y cyngor, cafodd opsiynau eraill, gan gynnwys adeiladu ffordd newydd, eu hystyried yn 2016 gyda'r gost rhwng £75m a £85m.
Un opsiwn sydd erbyn hyn sef prosiect hir dymor i adnewyddu'r ffordd a chyflawni gwaith peirianyddiaeth cymhleth i'r mynydd er mwyn ceisio atal y risg o dirlithiad yn y dyfodol.
Fe fydd hyn, medd y cyngor, yn "diogelu cymunedau ar hyd y ffordd" ac yn sicrhau bod isadeiledd trafnidiaeth yr ardal yn medru ymdopi gyda effeithiau newid hinsawdd yn y dyfodol.