AS wedi defnyddio adnoddau'r Senedd at ddibenion ei phlaid - comisiynydd

Cafodd Janet Finch-Saunders ei hethol i Fae Caerdydd am y tro cyntaf yn 2011
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Aelod Ceidwadol o Senedd Cymru ddefnyddio adnoddau'r Senedd at ddibenion ei phlaid wleidyddol, yn ôl comisiynydd safonau'r sefydliad.
Ond cafodd honiad o fwlio yn erbyn Janet Finch-Saunders ei wrthod gan y comisiynydd.
Bydd y Senedd yn trafod ac yn pleidleisio ar argymhelliad o gerydd i'r aelod dros Aberconwy yr wythnos nesaf.
Doedd Finch-Saunders ddim am wneud sylw cyn y ddadl honno, ond drwy gydol ymchwiliad y comisiynydd fe wnaeth hi wadu gwneud unrhyw beth o'i le.
'Tro ar ôl tro'
Mae'n rhaid i Aelodau o'r Senedd (ASau) ddilyn rheolau sy'n eu gwahardd rhag defnyddio adnoddau'r Senedd sydd wedi eu cyllido gan y trethdalwr - gan gynnwys staff, swyddfeydd a deunyddiau - at ddibenion pleidiol.
Ond yn ôl Comisiynydd Safonau'r Senedd, Douglas Bain, fe wnaeth Finch-Saunders "dro ar ôl tro achosi neu ganiatáu" i aelod o staff wneud gwaith yn ymwneud â'r Ceidwadwyr yn swyddfa'r etholaeth yn ystod oriau gwaith.
Yn ôl ymchwiliad Douglas Bain, cafodd 52 o e-byst pleidiol eu natur eu danfon rhwng Finch-Saunders a'r aelod o staff rhwng 1 Tachwedd 2024 ac 1 Awst 2025.
Cafodd yr e-byst yma i gyd - oedd yn trafod materion megis dylunio ac argraffu pamffledi'r Ceidwadwyr ar gyfer stondin y blaid yn Sioe Môn - eu prosesu gan yr aelod o staff yn swyddfa'r etholaeth yn defnyddio offer wedi ei ddarparu gan y Senedd.
Fe wnaeth yr ymchwiliad ddarganfod hefyd bod y swyddfa wedi cael ei defnyddio i storio deunyddiau'r blaid, ac fe wnaeth un aelod o staff weithio ar stondin y Ceidwadwyr yn Sioe Môn wrth gael ei gyflogi gan y Senedd.
'Ni ddylid ailadrodd hyn'
Yn ei thystiolaeth i'r comisiynydd, dywedodd Finch-Saunders nad oedd hi'n ymwybodol bod adnoddau'r Senedd yn cael eu camddefnyddio cyn 23 Mehefin 2025.
Ar y diwrnod hwnnw fe anfonodd e-bost at yr aelod o staff yn rhybuddio "ni ddylid ailadrodd hyn".
Ond sylwodd comisiynydd bod e-byst o natur bleidiol wedi cael eu danfon rhwng yr AS a'r aelod o staff yn y dyddiau cyn ac ar ôl y dyddiad hwn.
Dywedodd Douglas Bain ei fod yn "fodlon" bod Finch-Saunders yn ymwybodol o'r gwaith pleidiol oedd yn digwydd cyn iddi rybuddio'r aelod o staff.
Nid oedd yn gallu diystyru eglurhad y gweithiwr ei bod hi wedi anfon yr e-bost yn rhan o broses o "warchod" ei hun rhag ofn bod ymchwiliad fel hwn yn digwydd.
Dywedodd y comisiynydd bod atebion Finch-Saunders "ar adegau yn anghyson" a doedd hi ddim yn ei chredu wrth iddi wadu'r honiadau droeon.
'Dychrynllyd'
Clywodd y comisiynydd gan dri thyst oedd wedi gweithio i Finch-Saunders yn ystod y cyfnod hwn, oedd i gyd wedi ymddiswyddo.
Dywedodd un ohonynt wrth y comisiynydd eu bod wedi ymddiswyddo achos bod Finch-Saunders yn "anodd" a "digywilydd" a bod ei dull o reoli yn "ddychrynllyd".
Dywedodd Douglas Bain ei bod hi'n glir o'r dystiolaeth bod Finch-Saunders "yn disgwyl safonau uchel gan ei staff ac yn gwneud nifer o ofynion ar eu hamser".
Fe wnaeth yr aelod ei hun gydnabod ei bod yn "ddi-lol", meddai'r comisiynydd.
Ond "ar sail y dystiolaeth sydd ar gael" daeth y comisiynydd i'r casgliad nad oedd yr ymddygiad yn "bodloni'r trothwy" ar gyfer bwlio.
Wedi ei hethol yn gyntaf yn 2011, Finch-Saunders yw prif ymgeisydd y Ceidwadwyr ar gyfer etholaeth newydd Bangor Conwy Môn yn yr etholiad fis Mai.
Wrth ymateb i adroddiad y comisiynydd, dywedodd pwyllgor safonau'r Senedd bod Finch-Saunders wedi methu "â dangos yr arweinyddiaeth a ddisgwylid ganddi".
"Mae'n ddyletswydd arnom fel cynrychiolwyr etholedig i ddeall y gwahaniaeth rhwng gweithgaredd gwleidyddol a chyflawni ein dyletswyddau fel Aelodau.
"Mae hyn yn arbennig o berthnasol yng nghyd-destun yr etholiad sydd ar y gorwel – cyfnod o sensitifrwydd gwleidyddol cynyddol," ychwanegodd.
Mae'r pwyllgor yn argymell bod y Senedd yn rhoi cerydd ffurfiol i Finch-Saunders.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.