Gwahardd cyn-gynghorydd Gwynedd rhag sefyll am dair blynedd

Dyma Iwan Huws yn 2012 - fe gafodd ei ethol yn aelod o Gyngor Gwynedd yn 2022
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-gynghorydd wedi cael ei wahardd rhag bod yn gynghorydd am dair blynedd, ar ôl cael ei ganfod yn euog o dorri cod ymddygiad Cyngor Gwynedd.
Cafodd Iwan Huws ei ethol yn gynghorydd Plaid Cymru dros ward Bethel a'r Felinheli ar Gyngor Gwynedd yn 2022, ond roedd wedi camu i lawr o'i sedd cyn y gwrandawiad Panel Dyfarnu Cymru ddydd Mercher.
Roedd hefyd yn brif weithredwr ar Barc Cenedlaethol Eryri ar un cyfnod.
Mae canfyddiadau'r gwrandawiad, a gafodd ei gynnal tu ôl i ddrysau caeedig, bellach wedi'u cyhoeddi.
Mae'n nodi'r honiad bod Mr Huws wedi "derbyn rhybudd amodol am drosedd o 'dwyll drwy gamddefnyddio swydd' drwy geisio twyllo ei gyflogwr wrth gamddefnyddio arian".
Nid yw'r cyflogwr yn cael ei enwi.
Cyn-gynghorydd Gwynedd wedi ei gyfeirio at y tribiwnlys safonau
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2025
Canfyddiad y panel oedd bod y rhybudd hwn a'i gamymddygiad wedi "dod â'i swydd fel aelod â'i gyngor sir i anfri".
Mae derbyn rhybudd amodol yn gyfaddefiad o euogrwydd, ac mae'r manylion yn cael eu cadw yng nghofnodion yr heddlu.
Roedd Mr Huws wedi gweithio fel uwch swyddog morwrol yng Nghyngor Sir Ynys Môn, a chyn hynny fel cyfarwyddwr Cymru gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac fel prif weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri.
Roedd Mr Huws hefyd wedi sefyll fel ymgeisydd Plaid Cymru dros Aberconwy yn etholiad Cynulliad Cymru yn 2011, gan ddod yn ail.
Yn dilyn ymddiswyddiad Mr Huws fel cynghorydd sir ym mis Medi, llwyddodd Gwion Emyr i gadw'r sedd i Blaid Cymru mewn isetholiad ym mis Tachwedd.
Mae gan Mr Huws yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniad y panel drwy'r uchel lys.