Ymchwiliad llofruddiaethau Tooze: Rhyddhau dyn ar fechnïaeth

Harry a Megan Tooze
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Harry a Megan Tooze eu canfod wedi eu saethu ar fferm Tŷ Ar y Waun

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 86 oed a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth cwpl yn ne Cymru dros 30 o flynyddoedd yn ôl, wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Cafodd Harry a Megan Tooze, oedd yn eu 60au, eu canfod wedi eu saethu yn eu fferm yn Llanhari, Rhondda Cynon Taf yng Ngorffennaf 1993.

Yn dilyn adolygiad fforensig o'r achos yn 2023, dywedodd Heddlu De Cymru fod swyddogion wedi arestio dyn ddydd Mercher.

Cafodd y dyn ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ond mae Heddlu'r De wedi cadarnhau nos Iau ei fod wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Ddydd Mercher, dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Mark Lewis fod arestio'r dyn yn "ddatblygiad arwyddocaol" ond bod yr ymchwiliad yn parhau.

Apeliodd y ditectif hefyd ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y llofruddiaethau i gysylltu gyda'r heddlu, "er bod amser hir wedi bod".

Pynciau cysylltiedig