Arestio dyn yn yr ymchwiliad llofruddiaethau Tooze wedi 30 mlynedd

Cafodd Harry a Megan Tooze eu canfod wedi eu saethu ar fferm Tŷ Ar y Waun
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 86 oed wedi ei arestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth cwpl yn ne Cymru dros 30 o flynyddoedd yn ôl.
Cafodd Harry a Megan Tooze, oedd yn eu 60au, eu canfod wedi eu saethu yn eu fferm yn Llanhari, Rhondda Cynon Taf yng Ngorffennaf 1993.
Yn dilyn adolygiad fforensig o'r achos yn 2023, dywedodd Heddlu De Cymru fod swyddogion wedi arestio dyn ddydd Mercher.
Mae'r dyn wedi'i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Mark Lewis fod arestio'r dyn yn "ddatblygiad arwyddocaol" ond bod yr ymchwiliad yn parhau.
"Mae'r achos wedi cael effaith ar lawer o bobl dros y blynyddoedd a'n bwriad yw cael atebion i'r cwestiynau sydd heb eu hateb ynghylch y marwolaethau dros 30 o flynyddoedd yn ddiweddarach," meddai.
"Er bod amser hir wedi bod rydw i'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y llofruddiaethau i gysylltu gyda'r heddlu."

Ar fore 26 Gorffennaf 1993, aeth y cwpl i Lanhari yn y bore i gasglu eu pensiwn, gan ddychwelyd i'r fferm am 11:00.
Am tua 13:30 cafodd sŵn gwn yn tanio ei glywed gan gymdogion, ond doedd hynny ddim yn anarferol ar y fferm.
Cafodd yr heddlu eu galw ar ôl i'r cwpl fethu ag ateb galwad ffôn gan eu merch.
Daeth yr heddlu o hyd i gyrff y ddau mewn sied wartheg.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â Heddlu De Cymru ar-lein neu drwy ffonio 101.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2023
