Biniau gorlawn dros gyfnod y Nadolig yn 'berygl i iechyd'

Roedd biniau'n gorlifo yn Llandudno dros y Nadolig
- Cyhoeddwyd
Mae cyngor wedi cael ei feirniadu ar ôl beio trigolion am gyflwr biniau cyhoeddus oedd wedi'u gorlenwi dros gyfnod y Nadolig.
Yn gynharach yr wythnos hon, fe gwynodd trigolion a chynghorwyr bod biniau ar draws Llandudno heb gael eu gwagio dros y gwyliau, gan arwain at bobl yn gadael bagiau sbwriel ar ben neu o amgylch y biniau.
Dywedodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fod staff wedi bod yn gweithio rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd i wagio biniau, gan ychwanegu y dylai pobl fynd â'u sbwriel adref os nad oes lle yn y bin.
Mewn ymateb fe ddywedodd y Cynghorydd, David Carr, ei bod hi'n annheg i fwrw'r bai ar y cyhoedd am y sefyllfa - yn enwedig gan fod treth y cyngor wedi cynyddu tra bod gwasanaethau wedi lleihau.
Pori drwy'r biniau wrth i Gymru geisio arwain ar ailgylchu
- Cyhoeddwyd20 Medi 2025
Arweinydd cyngor yn ymddiswyddo wedi ffrae am gasglu biniau
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2024
Problemau casglu gwastraff Sir Ddinbych yn parhau
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2024
Ymhlith y strydoedd lle'r oedd biniau i'w gweld yn gorlifo oedd Augusta Street, Oxford Road, The Oval, Conway Road a Vaughan Street, gyda bagiau sbwriel yn cael eu gadael ar y palmant pan nad oedd lle yn y biniau.
Disgrifiodd y Cynghorydd, Louise Emery, y sefyllfa fel "perygl i iechyd".
Dywedodd y cyngor fod y broblem wedi gwaethygu wrth i rai perchnogion stwffio bagiau baw cŵn i mewn i finiau oedd eisoes yn llawn, rhywbeth a gafodd ei feirniadu gan yr awdurdod.
Mewn datganiad, dywedodd y cyngor fod staff wedi bod yn gweithio "dros y penwythnos", rhwng 07:00 a 15:00, yn gwagio biniau ac yn casglu sbwriel ar draws y sir.
Ychwanegodd yr awdurdod: "Mae'n siomedig pan nad yw pobl yn gyfrifol gyda'u gwastraff, a does dim esgus dros ollwng sbwriel ar y llawr na thaflu gwastraff yn anghyfreithlon.
"Os yw bin yn llawn, dylai pobl ddefnyddio'r bin nesaf sydd ar gael neu fynd â'u sbwriel adref gyda nhw."
Ond dywedodd y Cynghorydd Carr, "Fedrwch chi ddim torri staff a lleihau nifer y biniau a disgwyl na fydd pentyrrau o sbwriel.
"Mae llai o bobl yn delio â'r gwastraff a llai o finiau ar gael. Mae'r cyngor wedi cael gwared ar rai biniau baw cŵn. Mae'r cyhoedd yn talu mwy a mwy ond yn cael llai a llai."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.