Arestio pedwar wedi i fachgen gael anafiadau difrifol Nos Galan

Cafodd Heddlu'r De eu galw i Ffordd Mysydd, Plasmarl am 21:45 nos Fercher yn dilyn adroddiad o aflonyddwch
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar person wedi cael eu harestio ar ôl i fachgen 17 oed gael anafiadau difrifol mewn digwyddiad yn Abertawe Nos Galan.
Cafodd Heddlu'r De eu galw i Ffordd Mysydd, Plasmarl am 21:45 nos Fercher yn dilyn adroddiad o aflonyddwch.
Dywedodd y llu bod bachgen 17 oed o'r Clas yn Abertawe wedi cael ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol iawn a bod ei deulu'n cael ei gefnogi gan swyddogion arbennig.
Mae dyn 18 oed o Dreforys a thri bachgen 17 oed - un o Gwmrhydyceirw, un o'r Clas ac un o Treboeth - wedi cael eu harestio ar amheuaeth o achosi cythrwfl (affray) mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Katherine Barry: "Roedd hyn yn gyfres o ddigwyddiadau o anhrefn yn ymwneud ag un grŵp o ddynion ifanc.
"Rydym yn ymwybodol bod postiadau am y digwyddiad hwn wedi cael eu rhannu'n eang ar gyfryngau cymdeithasol."
Mae'r llu'n annog unrhyw un ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.