Anrheg arbennig CPD Lerpwl i fachgen bach o Fôn yn Ysbyty Alder Hey

Mae aelodau o dîm Lerpwl wedi ymweld â phlant yn Ysbyty Alder Hey dros gyfnod yr ŵyl
- Cyhoeddwyd
Mae teulu o Ynys Môn wedi cael anrheg go arbennig wrth i'w mab gael triniaeth yn Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl.
Mae Arron a'i wraig Georgina o Landegfan wedi bod yn ymwelwyr cyson â'r ysbyty ers i'w mab Ffredi gael diagnosis prin yn fuan ar ôl ei eni.
Cafodd y teulu ymwelwyr arbennig yn ddiweddar, wrth i reolwr ac aelodau o dîm pêl-droed Lerpwl ddod ag anrhegion i blant yn yr ysbyty.
Er bod treulio amser yn yr ysbyty yn "anodd iawn i deuluoedd" meddai Arron, mae'n llawn canmoliaeth i'r staff am ei wneud yn "le hapus iawn i fod".
'Heb Alder Hey, fyddai Ffredi ddim yma heddiw'
Cafodd Ffredi ei eni ym Mangor ym mis Ebrill 2024, ond tridiau'n ddiweddarach roedd rhaid iddo gael ei ruthro i Alder Hey.
Fe gafodd ofal dwys am dros wythnos cyn cael diagnosis o Hirschsprung's - afiechyd prin sy'n effeithio ar 200 o fabanod y flwyddyn yn y DU.
Mae'r afiechyd yn atal y coluddyn rhag ymlacio i ganiatáu i wastraff gael ei basio.
"Mae'r afiechyd yn meddwl ei fod yn mynd yn dehydrated yn lot haws na phlant eraill felly mae'n rhaid iddo fynd ar y drip," meddai Arron.
"Os mae o'n taflu i fyny mae o'n colli hyd yn oed mwy o ddŵr felly 'da ni wedi bod yn ôl a 'mlaen o Lerpwl yn aml i gadw fo'n iach ac yn hapus.
"Mae o hefo stoma ers mis Awst 2024 sydd wedi helpu llwythi o ran codi ansawdd ei fywyd o."

Mae Hirschsprung's yn effeithio ar un o bob 5,000 o blant yn y DU bob blwyddyn
Dywedodd Arron bod "Alder Hey yn golygu popeth i ni".
"Heb eu gwaith nhw, buasai Ffredi ddim yma heddiw. 'Nath nhw achub ei fywyd o.
"Pob tro 'da ni yn mynd yno, 'da ni'n gwybod bo' ni mewn dwylo saff.
Mae'n amser pryderus i ni ond unwaith 'da ni yna mae popeth yn iawn."

Dyma'r eildro i Ffredi gyfarfod Virgil van Dijk, capten Lerpwl
Er bod Arron yn gefnogwr brwd o dîm pêl-droed Arsenal, roedd yn hynod ddiolchgar am ymdrechion rhai o sêr tîm Lerpwl a fu'n dosbarthu anrhegion ar y wardiau i godi ysbryd y plant.
Yn eu plith oedd y rheolwr Arne Slot a'r capten Virgil van Dijk - ond nid dyma'r unig dro i'r teulu gwrdd â'r amddiffynnwr o'r Iseldiroedd.
Yno hefyd oedd y golwr Alisson, yr amddiffynnwr Andy Robertson a'r chwaraewr canol cae Curtis Jones.
"Gafon ni weld Virgil van Dijk llynedd felly oedd o yn reunion bach i ddweud y gwir," meddai Arron.
"Oedd o'n cofio ni gan fy mod i'n fan Arsenal a'i herio fo yn dweud odda' ni am guro'r gynghrair, ond nes i ddim yr un camgymeriad eleni!
"I weld nhw gyd yn dod trwy'r drws, mor surreal, a pa mor down to earth, maen nhw yn barod i roi gwen ar wynebau'r plant.
"Dwi'n dechrau poeni bydd Ffredi yn ffan Lerpwl gwaetha'r modd!"
Codi arian 'y lleiaf fedra i wneud'
Mae afiechyd Hirschsprung's yn un prin, ac mae'r teulu yn awyddus iawn i godi ymwybyddiaeth i helpu teuluoedd eraill sydd mewn sefyllfaoedd tebyg.
Mae Arron, sy'n gweithio fel newyddiadurwr, wedi sefydlu gwefan er mwyn rhannu eu profiadau gan fod "dim llawer o wybodaeth ynglŷn â'r afiechyd".
"Wrth i ni ddysgu mwy am yr afiechyd, mae cyfle i ni helpu teuluoedd eraill sydd yn yr un sefyllfa â ni.
"'Da ni dal i ddysgu rŵan a'r gwir yw, byddwn i dal i ddysgu am byth mae'n siŵr ar sut i gadw Ffredi yn iach."

Fe wnaeth Arron gynnal gêm bêl-droed i godi arian at Alder Hey
Mae Arron hefyd wedi bod yn codi arian at Alder Hey ac elusen Ronald McDonald House, sy'n cynnig llety i deuluoedd plant sy'n ddifrifol wael ac yn derbyn triniaeth mewn ysbytai cyfagos.
Ar ôl llwyddo i godi £2,500 drwy gynnal gem bêl-droed elusennol, mi wnaeth Arron gerdded ar draws Ynys Môn ac ychwanegu £1,300 at yr ymgyrch.
Dywedodd: "Wnes i hyn i ddangos pa mor ddiolchgar oeddwn i o'r holl waith caled maen nhw yn ei wneud – y lleiaf fedra i ei wneud.
"Dwi'n mynd i barhau hefo gêm elusennol arall blwyddyn nesaf."
Ychwanegodd: "Mae gorfod mynd i Alder Hey yn rhywbeth tydi neb eisiau gorfod gwneud, ond mae'r gweithwyr yn Alder Hey wedi ei wneud yn le hapus iawn i fod."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2024
