Bachgen o Fôn sydd â chyflwr sy'n cyfyngu oes ar daith i weld Siôn Corn

OliverFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Oliver yn dechrau ar daith arbennig i weld Siôn Corn yn Lapland fore Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae bachgen bach o Ynys Môn sydd â chyflwr difrifol ar ei galon ar fin dechrau taith arbennig i weld Siôn Corn yn Lapland a "chreu atgofion gwerthfawr".

Mae Oliver, sy'n wyth oed ac o bentref Dwyran, wedi'i ddewis gan Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl ar gyfer y daith, gan ei fod â chyflwr fydd yn cyfyngu ar ei oes.

Mae'n un o 21 o blant o'r Deyrnas Unedig fydd yn mynd ar y siwrne.

Cafodd Oliver ei eni gyda Syndrom Hypoplastig ar ochr dde ei galon, sy'n golygu nad ydy'r ochr honno wedi datblygu o gwbl.

Mae o wedi cael sawl llawdriniaeth yn Ysbyty Alder Hey, ac mae tîm cardioleg yr ysbyty wedi ei enwebu am y daith i Lapland drwy'r elusen blant, Northern Lights.

Oliver a'i fam, Rebecca
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rebecca yn hynod ddiolchgar i'r ysgol a'r ysbyty am eu gofal tuag at Oliver

Fel yr eglura ei fam, Rebecca, mae Oliver wedi bod yn Ysbyty Alder Hey sawl gwaith.

"Mi gafodd ei lawdriniaeth gyntaf pan oedd o'n bythefnos oed.

"Cafodd ei ail pan oedd o'n naw mis oed a'r trydedd lawdriniaeth fawr pan oedd o bron yn bump oed ac fe gafodd o un arall cyn Dolig dwytha'.

"Roeddan ni'n poeni llynedd na fydde fo adre gyda ni ar gyfer dydd Dolig, ond diolch byth fe ddoth drwyddi."

Oliver a'i athrawes, Molly Paramor
Disgrifiad o’r llun,

Dydy athrawes Oliver, Molly Paramore, "heb glywed am ddim byd ond am Lapland gan Oliver yn ystod yr wythnosau dwytha' 'ma!"

Yn anffodus does dim gwella, medd Rebecca: "Ma'r holl driniaethau 'ma yn ffordd o ymestyn mymryn ar ei fywyd bach o.

"Da' ni mor ddiolchgar i Ysbyty Alder Hey am hynny, ond mae o'n fachgen dewr ac yn wynebu llawer mwy o lawdriniaethau yn y dyfodol agos.

"Mae o wastad yn fachgen bach hapus a llon hefo gwên ar ei wyneb drwy'r adeg.

"Da' ni'n gneud y gorau o'r cyfnod fydd ganddo hefo ni ac mae'r daith yma i Lapland yn golygu creu atgofion gwerthfawr i ni.

"Fyddwn i ddim yn mynd hefo fo, swyddogion yr elusen ac arbenigwyr meddygol fydd yn mynd hefo fo yno.

"Ond, da' ni wedi rhoi camera bach "disposable" iddo fo, er mwyn gallu cofnodi rhywfaint o'i daith i ni."

OliverFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae lefel ocsigen Oliver yn isel, yn sgil y cyflwr sydd ar ei galon

Mae'r cyflwr ar ochr dde ei galon yn golygu bod lefel ocsigen Oliver yn isel iawn, yn ôl ei fam.

"Mae ganddo Cyanosis, sy'n golygu bod lliw glas ar ei groen yn aml, mae'n blino'n hawdd ac yn teimlo'r oerfel yn fwy.

"Mae o'n cael poenau yn ei frest ac mae o'n cael dyddiau da a dyddiau drwg, ond mae o wastad yn brwydro gyda gwên."

Yn naturiol, mae Oliver yn edrych ymlaen yn ofnadwy at ei daith, y tro cyntaf erioed iddo gael teithio ar awyren.

"Dwi heb fod mewn awyren o'r blaen ac mi fydd o'n hwyl cael mynd i Lapland i weld Siôn Corn, am fy mod i wedi bod yn hogyn dewr", meddai Oliver.

"Dwi'n edrych ymlaen at ofyn i Sion Corn am gar pedlo glas a gobeithio ga'i fynd ar y toboggan a'r snow mobile a dwi'n edrych ymlaen at weld eira ac am adeiladu gwesty mawr allan o eira, hefo sawl cegin a 'stafell folchi ac ella dod â 'chydig o eira yn ôl i Niwbwrch."

OliverFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Oliver yn ddisgybl yn Ysgol Santes Dwynwen yn Niwbwrch

Yn ôl athrawes Oliver, Molly Paramore, mae o wir yn haeddu cael mynd ar y daith arbennig yma.

"Da' ni ddim 'di clywed am ddim byd ond am Lapland gan Oliver yn ystod yr wythnosau dwytha' ma'!

"Ond mae o wir yn haeddu cael mynd, mae o'n fachgen bach brwdfrydig ac mae o'n trio ei orau glas ymhob agwedd o'i waith yn yr ysgol," meddai Ms Paramore.

Dywedodd bod pawb yn Ysgol Santes Dwynwen, Niwbwrch "yn hynod falch ei fod o wedi cael ei ddewis i fynd i Lapland am be' mae o wedi mynd drwyddo a be' mae o wedi gorfod goroesi".

"O fewn yr ysgol mae ei gyflwr yn ei atal rhag gwneud gormod o ymarfer corff ac mae o'n ei chael hi'n anodd iawn ymdopi gyda thywydd oer.

"Er hynny, dydy hynny ddim yn ei atal o rhag bod yn rhan fawr o'r ysgol yma ac mae o'n hoff iawn o chwara' pêl-droed ar yr iard, er gwaetha' ei gyflwr."

'Gofal anhygoel'

Ychwanegodd Rebecca ei bod yn hynod ddiolchgar i'r ysgol am eu gofal tuag ato.

"Ma'r ysgol wedi bod yn anhygoel yn gofalu amdano ac yn caniatáu iddo fwynhau bywyd ysgol mewn awyrgylch mor gariadus a chartrefol.

"Ma' nhw'n ymwybodol o unrhyw arwyddion os ydi Oliver yn sâl.

"Mae o angen bwyta snacs yn ystod y dydd, gan fod rhaid iddo gael mwy o galorïau na phlant eraill ac ma'r ysgol mor gefnogol ac yn rhoi pob cyfle iddo."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig