Gofal cymdeithasol mor werthfawr ond y 'pwysau ar y staff yn rili anodd'

Disgrifiad,

Mae Llio Morris yn elwa o'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig mewn canolfannau teulu yn Sir Conwy, ond dywed rheolwyr eu bod o dan bwysau cynyddol

GanGareth Wyn Williams
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae awdurdodau lleol wedi rhybuddio y bydd y gefnogaeth sydd ar gael i bobl bregus "yn anoddach i'w gynnal" heb fuddsoddiad ychwanegol, yn sgil gorwariant o £69m ar ofal cymdeithasol.

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod gwasanaethau cymdeithasol ar draws y wlad wedi ymateb i bron i 450,000 o achosion yn 2023-24, sy'n gynnydd o 8% ar y flwyddyn cynt.

Ond heb fwy o fuddsoddiad hirdymor o Fae Caerdydd, maen nhw'n rhybuddio y bydd gofal hanfodol i blant, teuluoedd a phobl hŷn yn anoddach i'w gynnal.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod buddsoddiad sylweddol wedi bod mewn gofal cymdeithasol a bod cynghorau wedi derbyn cynnydd o 4% yn eu cyllidebau i helpu i ariannu gwasanaethau o'r fath.

'Mi faswn i ar goll'

Mae Conwy yn un sir sy'n darparu canolfannau teulu - canolfannau sy'n boblogaidd gyda rhieni.

Mae Llio Morris, 38, o Gerrigydrudion yn dweud bod mynychu'r ganolfan yn Llanrwst, sef yr unig un yn ne'r sir, yn brofiad gwerthfawr.

"Pan 'nes i gael yr hogyn bach - yr ail blentyn, 'nes i ddechrau dod i glybiau yma yn Llanrwst - jyst i gael brêc o adra a rhywbeth i'r ddau o blant gael gwneud.

"Pan wnaethon ni sylwi bod yr ail blentyn ddim yn cyrraedd ei dargedau mi oeddan nhw'n dda iawn chwarae teg, pan oeddwn i'n siarad efo nhw am pa wasanaethau oedd gan y canolfan i'w cynnig."

Canolfan Deulu Llanrwst
Disgrifiad o’r llun,

Canolfan Deulu Llanrwst

Gyda'r plentyn wedi elwa o gyrsiau Makaton, dywedodd Llio Morris bod aelodau eraill o'r teulu hefyd wedi gweld budd.

"Dwi wedi cael help i lenwi ffurflenni... dw'i ddim yn dod o'r sector iechyd ac addysg, felly does gen i ddim syniad sut i lenwi ffurflenni fel hyn i mewn - DLA, Dechrau'n Deg, gofal 30 awr ac ati.

"Mae nhw wedi bod yn werthfawr iawn.. ac wastad ar ben arall y ffôn.

"Gathon ni ddiagnosis i'r mab llynedd a oeddan nhw'n un o'r gwasanaethau cyntaf 'nes i ffonio."

Heb wasanaeth o'r fath, dywedodd Llio Morris y byddai pethau wedi bod yn anodd iawn.

"'Swn ni wedi stryglo... yn y dosbarth derbyn mae'r hogyn gyda ni ar hyn o bryd - mae o'n bedair oed.

"So yn y cyfnod cyn hyn dwi ddim yn siŵr lle faswn i wedi troi a deud y gwir.

"Allai ddim meddwl lle fasa'r gofal yma wedi bod, mi faswn i ar goll.

"Mae'r staff yma i gyd yn siarad Cymraeg, mae hynny'n bwysig iawn i ni... mi fasa siarad am hyn gyda rhywun yn y Saesneg yn anodd iawn."

Fflur Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Fflur Davies bod y ganolfan wedi bod o gymorth mawr iddi hi hefyd

Mae Fflur Davies, 29, yn fam i bedwar o blant ac hefyd yn mynychu'r ganolfan.

Wedi symud i ardal Llanrwst, mae hi'n dweud bod y ganolfan wedi helpu iddi integreiddio i'r gymuned.

"Mae bod yn fam yn gallu bod yn rwbath unig ofnadwy yn enwedig wedi symud o gymuned gwahanol a ddim yn nabod neb, felly mae dod i fan hyn a teimlo gymaint o groeso yn hollbwysig.

"A 'dan ni dal i ddod yma a byddwn ni am flynyddoedd i ddod hefyd gobeithio. 'Dan ni'n ffodus iawn ohono fo."

'Mae'n brysurach o wythnos i wythnos'

Yn ôl Kelly Jones, sy'n rheoli canolfannau teulu Conwy, mae nhw'n wynebu heriau cynyddol.

"Pan 'nes i gychwyn oedd hi'n brysur yma ond rwan mae'n brysurach o wythnos i wythnos," meddai.

Kelly Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Kelly Jones bod mwy o bwysau ar staff bellach yn sgil mwy o alw

"Yn y gorffennol 'da ni wedi gweld amseroedd distaw dros y gwyliau haf neu Nadolig, ond 'da ni'm yn gweld hynny ddim mwy.

"Mae'r gofyn wedi newid hefyd. Mae'r teuluoedd hefo problemau lot mwy dwys a lot mwy complex."

Mae hi'n bendant mai'r broblem fwyaf yw ariannu gwasnaethau o'r fath.

"'Dan ni'n dibynnu ar grantiau... o flwyddyn i flwyddyn ni ddim yn gwbod os ydan ni'n cael y grant erbyn y flwyddyn wedyn.

"Mae'r pwysau ar staff yn rili anodd.

"Mae'r tîm o staff sydd ganddo ni yn wych ac wrth gwrs maen nhw eisiau aros efo ni, ond 'da ni yn gallu gweld weithiau, oherwydd fod y pwysau yna'n deud ar gyfer diwedd y flwyddyn, fod pobl yn poeni am eu swyddi.

"Mae ganddon ni bobl yn gadael weithiau ac mae hynny'n rili anodd."

'Methu cynllunio' gyda grantiau tymor byr

Mae'n batrwm tebyg ar draws y wlad gyda chynghorau yn wynebu pwysau cynyddol ond llai o adnoddau ar gyfer gwasanaethau plant ac oedolion.

Ar draws Cymru mae nifer y plant mewn gofal wedi codi o 5,745 yn 2014 i 7,200 yn 2024.

Fôn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae Fôn Roberts yn is-gadeirydd ADSS Cymru a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn

Mae Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) yn galw am fframwaith newydd a fyddai'n golygu bod strwythur cyflog staff gwasanaethau cymdeithasol yn dilyn trywydd tebyg i'r gwasanaeth iechyd.

Dywed Fôn Roberts, Is-gadeirydd ADSS Cymru a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn, bod arian wastad yn broblem gan eu bod yn cael eu harwain gan y galw.

"Mae 'na fusnesau allan yna yn gwneud elw sylweddol pan fo plant yn mynd i ofal, dwi'n ymwybodol o un lleoliad sy'n costio £40,000 i un awdurdod lleol bob wythnos," meddai.

"A 'sa chi'n edrych arnon ni ar Ynys Môn, Gwasanaethau Plant ac Oedolion ydy'r unig wasanaeth [oddi fewn y cyngor] sy'n gorwario.

"Mae'r gwasanaethau cymdeithasol ar y funud yn dibynnu lot ar grantiau ac mae'r grantiau yma'n arian tymor byr - 'da ni'n ddiolchgar iawn amdanyn nhw ac yn gweld budd da o'r arian yna.

"Ond fedran ni ddim cynllunio pellach na blwyddyn neu ddwy.. a felly mae hwnna'n le anodd i ni fedru datblygu gwasanaethau."

Beth mae'r pleidiau yn ei ddweud?

Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol bod buddsoddiad sylweddol wedi bod wrth i Lywodraeth Lafur Cymru geisio amddiffyn gwasanaethau rheng flaen.

"Gwelsom newid llywodraeth yn Llundain a'r yr hyn yr ydym wedi dechrau ei weld nawr yw bod arian yn dechrau llifo i mewn i lywodraeth Cymru mewn ffordd nad ydym wedi'i gweld ers 14 mlynedd," meddai Dawn Bowden.

"Mae wedi golygu cynnydd o 4% yng nghyllidebau cynghorau i helpu i dalu am ofal cymdeithasol, meddai, gan ychwanegu bod gan Lafur Cymru "uchelgais glir am gyflog cyfartal â'r GIG ac wedi ymrwymo i'r cyflog byw go iawn a sefydlu'r cytundeb cyflog teg".

Dywed Plaid Cymru eu bod o" ddifrif dros greu system iechyd a gofal integredig, fel bod cleifion yn gallu cael mynediad i ofal pan maen nhw ei angen".

Ychwanegon nhw eu bod am "symud yn wirioneddol tuag at agenda ataliol i gadw pobl yn iachach am hirach".

Yn ôl Reform UK mae 'na "ddiffyg cyswllt yn y system gofal cymdeithasol rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd".

Byddan nhw'n adolygu gofal cymdeithasol er mwyn datblygu fframwaith integreiddio wedi'i gostio'n llawn rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, gydag atebolrwydd clir a ffocws ar ganlyniadau.

Dywedodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru bod yn rhaid trin gofal cymdeithasol fel blaenoriaeth genedlaethol a byddan nhw'n darparu pecyn achub wedi'i ariannu o gyllidebau presennol y Senedd neu o arian sy'n ddyledus i Gymru gan San Steffan.

Byddan nhw hefyd yn cefnogi cynnydd o 1c mewn treth incwm i helpu i dalu amdano.

Dywedodd Plaid Werdd Cymru y byddan nhw'n ymestyn Dechrau'n Deg ac yn ehangu gofal plant am ddim yn ogystal â "chyllido priodol" i'r timau cymorth i deuluoedd.

Ar gyfer gofal oedolion, dywedon nhw y byddan nhw'n canolbwyntio ar gadw pobl yn egnïol yn feddyliol, yn gorfforol ac yn gymdeithasol ac y byddai gofal cymdeithasol yn gweithio law yn llaw gydag iechyd cyhoeddus, gofal sylfaenol, grwpiau cymunedol a'r trydydd sector.