Cylchgrawn Barn ar gael i bobl sydd â nam ar eu golwg

Dywedodd Eiry Miles eu bod yn gwybod fod rhai o'r tanysgrifwyr yn cael trafferth i ddarllen y cylchgrawn
- Cyhoeddwyd
Am y tro cyntaf bydd cylchgrawn materion cyfoes Cymraeg Barn ar gael i bobl sydd â nam ar eu golwg.
Mae'n ddatblygiad newydd yn hanes y cylchgrawn, wrth i erthyglau a straeon gael eu recordio ar gyfer rhifyn dwbl mis Rhagfyr ac Ionawr.
Dywedodd Eiry Miles, cyd-gadeirydd bwrdd cylchgrawn Barn, ar raglen Dros Frecwast eu bod yn gwybod fod rhai o'r tanysgrifwyr yn cael trafferth i ddarllen y cylchgrawn.
"Oedd 'na lawer iawn o bobl oedd yn ffyddlon iawn erbyn hyn wedi colli eu golwg, ond yn dal i danysgrifio allan o ryw deyrngarwch i'r cylchgrawn," meddai.
"Felly roedden ni'n meddwl, bydde fe'n beth braf iawn i allu helpu nhw i barhau i fwynhau'r cylchgrawn, er bod nhw erbyn hyn yn cael trafferth darllen testun."
'Ddylai anabledd ddim rhwystro pobl'
Ychwanegodd: "O'n i'n gyfarwydd efo gwaith Llyfrau Llafar ac yn gwybod am y gwasanaeth gwerthfawr maen nhw'n ei ddarparu yn recordio llyfrau, papurau bro a bob math o bethe, ac oni'n teimlo bysa fe yn beth braf i gynnig Barn i bobl sydd efo nam ar eu golwg."
Mae'r holl gyfranwyr sydd wedi recordio eu herthyglau - yn stiwdio Llyfrau Llafar yng Nghaerfyrddin a stiwdio Cymdeithas y Deilion ym Mangor - wedi gwneud hynny yn eu hamser eu hunain, yn wirfoddol.
"Tydi o ddim yn rhwydd, ond oedd y cyfranwyr yn teimlo'n gryf iawn bod o'n rhywbeth oedden nhw eisiau gwneud," meddai Ms Miles.
"Maen nhw'n gwerthfawrogi pa mor bwysig ydy o fod pobl yn parhau i allu mwynhau i ddarllen a mwynhau ymwneud â materion cyfoes, a ddylai anabledd ddim rhwystro pobl gael mynediad at hynny.
"Mae methu darllen yn gallu arwain at unigrwydd, at beidio teimlo'n rhan o bethe, felly dwi'n meddwl oedd pawb yn teimlo fod o'n rhywbeth gwerth chweil i 'neud a rhywbeth ddyle ni neud, i wneud y cylchgrawn yn fwy hygyrch i bobl."
Mae modd derbyn y recordiadau drwy e-bost, lawrlwytho ffeiliau sain i ddyfais, neu mae modd derbyn CD yn y post.
Cysylltwch â swyddfa Llyfrau Llafar i archebu fersiwn llafar o Barn.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2015
