Gweld drama S4C yn llwyddo'n rhyngwladol yn 'wefr'

Yn y llun yma gwelir yr actor Mark Lewis Jones yn ffilmio cyfres Dal y Mellt. Mae e'n gwisgo siwt glas gyda chris tywyll. Mae ganddo wallt golau. Tu ol iddo mae 'na ddau gar - un gwyn ar y chwith ac un coch ar y dde.Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mark Lewis Jones sy'n chwarae Mici Ffin yn y ddrama

  • Cyhoeddwyd

Mae'n "hwb" ac yn "wefr" gweld ail gyfres drama newydd S4C, Dal y Mellt, yn llwyddo'n rhyngwladol medd aelodau'r criw.

Mae'r gyfres eisoes wedi ei phrynu gan rwydweithiau teledu yn Awstralia a Sbaen, gyda gwledydd eraill hefyd yn cynnal trafodaethau gyda'r cynhyrchwyr.

Yn 2023, fe gafodd Dal y Mellt ei rhyddhau ar wasanaeth ffrydio Netflix - y ddrama iaith Gymraeg gyntaf ar y platfform.

Dywedodd y cynhyrchydd Llŷr Morus ei bod hi'n "braf" gweld bod cynyrchiadau Cymru'n "llwyddo a gallu cystadlu."

Mae Llŷr Morus yn gwisgo siaced llwyd gyda chrys streipiog. Mae ganddo farf. Ffynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae llwyddiant y ddrama wedi magu hyder yn ôl Llŷr Morus, cyd-gynhyrchydd y ddrama

"'Da ni'n gwybod bod 'na lwyddiant rhyngwladol i'r ail gyfres cyn iddi fynd allan ar S4C," meddai'r cynhyrchydd Llŷr Morus gyda'r gwledydd brynodd y gyfres gyntaf "wedi dod yn ôl a gofyn yn barod i brynu'r ail gyfres".

"Mae gynnon ni gymaint i'w gynnig" meddai ond "beth sy'n braf yw'r teimlad 'na bod ein straeon ni yn gallu bod yn wreiddiol Gymraeg a Chymreig ond bod nhw'n ymdrin â themâu sydd yn teithio yn rhyngwladol ac sydd yn berthnasol i bob gwlad."

Fe gafodd chwe phennod y gyfres gyntaf eu haddasu o nofel wreiddiol Iwan 'Iwcs' Roberts a'u cyhoeddi ar S4C yn 2022.

"Does dim angen i ni addasu ein ffordd o ddweud stori nac ein ffordd o gynhyrchu dramâu, er mwyn llwyddo yn rhyngwladol" ychwanegodd.

'Cyfle os ydy'r stori gyda ni'

Yn ôl yr adolygwr ffilm a theledu, Gary Slaymaker, mae'r farchnad deledu ryngwladol yn gyfle i'r rhaglenni Cymraeg.

"I normaleiddio'r syniad bod yr iaith Gymraeg yn rhan o hyn, mae'n wych.

"Ni'n mynd yn ôl blynyddoedd a dim ond dwy ffynhonnell o'dd 'na ar gyfer rhaglenni Cymraeg: S4C neu BBC Cymru Wales."

O ystyried yr holl sianeli ffrydio sydd ar gael bellach mae Gary Slaymaker'n dweud "yn sydyn reit mae 'di troi yn ddemocratig iawn, mae 'na gyfle os ydy'r stori gyda ni."

Ychwanegodd y bydd "pobl yn ddigon hapus i diwnio mewn i weld rhaglen Gymraeg achos bellach y'n ni mor gyfarwydd gyda'r syniad o isdeitlau".

Llun o'r actor Gwion Morris Jones sy'n chwarae rol Carbo. Mae ganddo wallt sinsir. Mae e'n gwisgo crys gwyn gyda siaced du.Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r actor Gwion Morris Jones yn ail gydio yn ei gymeriad Carbo

Mae awdur y nofel Iwan 'Iwcs' Roberts, o Drawsfynydd, yn gyd-gynhyrchydd yr ail gyfres hefyd.

Mae'r gyfres newydd wedi ei seilio ar ei ail nofel 'Dal Arni', sy'n dilyn cymeriadau megis Carbo, Antonia a Mici wrth iddyn nhw gael eu tynnu'n ôl i fyd o drosedd a risg.

"Mae o'n siwrne eitha' dirdynnol," meddai Iwcs, wrth adlewyrchu ar stori'r ail gyfres.

Ac mae llwyddiant ei waith, yn enwedig dramor, yn destun o falchder i'r awdur ac actor.

"Dwi'n uffernol o browd bo' fi 'di gallu 'neud hwnna yn fy iaith fy hun heb werthu allan i'r Saeson dros y ffin."

Wrth galon ei waith, meddai Iwcs, mae'r gwylwyr adref sydd wedi ymateb i'w straeon.

Huw Chiswell sydd yn y llun yma. Mae e'n gwenu wrth edrych ar y camera ac yn gwisgo crys glas tywyll. Mae ganddo wallt gwyn.Ffynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Huw Chiswell wedi dychwelyd i gyfarwyddo'r ail gyfres

"Mae'n fraint, yn un peth, gallu ymhél â chynnwys fel hyn a dychmygu fe, a rhoi e lawr ar ffilm," meddai Huw Chiswell, cyfarwyddwr y ddrama.

Ychwanegodd Mr Chiswell bod gwerthu'r ddrama i Netflix wedi bod "yn hwb" i'r criw wrth feddwl bod y cynnwys ar gael yn rhyngwladol.

"Ti yn teimlo bod rhywbeth arbennig fanna - bod yr iaith Gymraeg yn cael sylw tu hwnt - mae'n syndod cyn lleied o bobl sy'n ymwybodol o'r iaith.

"Maen nhw'n gwybod nawr os 'ma nhw wedi gweld Dal y Mellt ac mae hynny yn wefr."

Mae Siwan Morris yn sefyll yn erbyn wal gwyn. Mae hi'n gwisgo ffrog coch a du gyda phatrwm croen llewpard. Mae ganddi wallt brown golau. Mae hi'n gwenu. Ffynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Siwan Morris sy'n chwarae Julia, gwraig Mici, yn y gyfres

"Mae e'n foment fawr i ni fel cenedl i gael rhywbeth yn yr iaith Gymraeg wedi ei brynu gan Netflix," meddai Siwan Morris, sy'n dychwelyd i'w rôl yn yr ail gyfres.

"I deimlo bod yr iaith Gymraeg yn gallu cyffwrdd pobl o ble bynnag yn y byd, mae e'n sefyllfa gryf a mae e'n hynod o gyffrous."

Yn ôl Gwenllian Gravelle, Pennaeth Ffilm a Drama S4C, mae'r sianel deledu "yn falch iawn" o Dal y Mellt.

"Mae'n llawn hwyl, egni a chyffro, ac mae Carbo a'r criw yn barod i daro'r mellt unwaith eto a dal y gynulleidfa ar bigau'r drain."

Mi fydd y gyfres newydd yn cael ei ddarlledu yn y Gymraeg, gydag isdeitlau, ar S4C, S4C Clic, a BBC iPlayer ar 4 Ionawr 2026.