70 mlynedd ers i Gaerdydd ddod yn brifddinas Cymru

Daeth Caerdydd yn brifddinas ar 20 Rhagfyr 1955
- Cyhoeddwyd
Mae dydd Sadwrn yn nodi union 70 mlynedd ers i Gaerdydd ddod yn brifddinas Cymru.
Daeth y cyhoeddiad mewn datganiad yn Nhŷ'r Cyffredin gan y Gweinidog Materion Cymreig ar y pryd, Gwilym Lloyd George - mab David Lloyd George - ar 20 Rhagfyr 1955.
Roedd y cyhoeddiad yn benllanw ar ymgyrch 30 mlynedd a chystadlu brwd rhwng trefi a dinasoedd ledled y wlad i ddod yn brifddinas.
Dyma edrych yn ôl ar sut gafodd Caerdydd y statws yma a sut mae hynny wedi effeithio ar y ddinas dros y blynyddoedd.
Beth petai Caernarfon yn brifddinas Cymru?
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2024
Rygbi Caerdydd... 150 mlynedd o hanes
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2025
Mewn cyfweliad ar raglen Dros Frecwast, fe ddywedodd yr hanesydd Hefin Mathias fod Caerdydd yn cael ei chydnabod fel prifddinas answyddogol cyn 1955.
"Y Chwyldro Diwydiannol newidiodd y sefyllfa gyda thwf diwydiant ym Morgannwg a Gwent a Chaerdydd yn tyfu fel porthladd pwysig yn sgil datblygiad y diwydiannau haearn a glo.
"Erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd poblogaeth Caerdydd wedi tyfu o 2,000 yn 1800 i dros 160,000 erbyn 1900 gan ddatblygu i fod y ddinas fwyaf yng Nghymru.
"Erbyn 1954 roedd Caerdydd yn cael ei chydnabod fel prifddinas answyddogol Cymru gyda llwyth o sefydliadau cenedlaethol wedi eu lleoli yno, yn eu plith amgueddfa Genedlaethol Cymru, y BBC, Cydbwyllgor Addysg Cymru, a Chyngor Celfyddydau Cymru.
"Cafodd Gwilym Lloyd George, mab i gyn-Brif Weinidog y DU, David Lloyd George, ei benodi yn weinidog dros faterion Cymreig ac Ysgrifennydd Cartref yn yr un flwyddyn hefyd."

Heol y Frenhines yn 1955
Er y statws newydd, awgrymodd Mr Mathias nad oedd Caerdydd yn teimlo yn Gymreig iawn ar y pryd.
"Fe wnaeth Caerdydd a Chymru wrthod datganoli cyn i'r holl sefyllfa newid oherwydd dechreuodd llywodraeth Margaret Thatcher weithredu polisïau a oedd yn ddrwg i Gymru gan arwain at refferendwm.
"Ers hynny, mae Caerdydd wedi llwyddo tyfu i fod yn fwy Cymreig ei naws, gydag addysg Gymraeg yn llewyrchu a'r Senedd yn y Bae yn adlewyrchu hyn i gyd."
Ychwanegodd nad yw lleoliad Caerdydd yn berffaith, ond bod daearyddiaeth Cymru yn golygu nad oedd opsiwn perffaith ar gael.

Cafodd Catrin Beard ei magu yng Nghaerdyd yn y 60au a'r 70au
Un gafodd ei magu yng Nghaerdydd ydy Catrin Beard.
"Dwi'n gyfarwydd iawn â Chaerdydd, ges i fy magu yno nôl yn y 60au a'r 70au felly mae o'n rhyfeddol i weld sut mae'r ddinas wedi newid ers hynny," meddai.
"Oedden ni yn deulu Cymraeg ac yn byw bywyd Cymraeg yn y cartref ac yn mynd i ysgol Gymraeg.
"Ond o ran y cymdeithasu oedd llawer yn digwydd rownd y capel... ac roedden ni'n dod i nabod pobl drwy hynny a drwy'r Urdd hefyd.
"Ar wahân i hynny doedd 'na bron dim Cymraeg ar hyd y lle - doedd neb o'n cwmpas ni yn gymdogion pan yn fach yn siarad Cymraeg.
"Er bod Caerdydd yn brifddinas doedd 'na ddim ymdeimlad o Gymreictod o gwbl."
Gweld twf y Gymraeg yn 'deimlad mor braf'
Ychwanegodd Ms Beard ei bod wedi gweld yr iaith Gymraeg yn tyfu yn aruthrol dros y degawdau.
"Mae'n anhygoel, bryd hynny (60au a 70au) roedd 'na un ysgol gynradd Gymraeg a dyna gyd, ond heddi dwi ddim yn gwybod faint sydd ac ambell waith dwi'n gweld enw ysgol Cymraeg ac yn meddwl 'waw ysgol Cymraeg newydd yng Nghaerdydd'.
"Mae o'n deimlad mor braf bod y Gymraeg bellach wedi dod yn rhan annatod o Gaerdydd ac yn rhan naturiol o'r ddinas."

A fyddai Aberystwyth wedi bod yn ddewis mwy synhwyrol fel prifddinas?
Awgrymodd fod hyder y ddinas wedi tyfu dros y blynyddoedd hefyd.
"Mae'n ddinas eithaf ifanc gyda lot o bobl ifanc yn cael eu denu yno, yn fy amser i os oedd pobl ifanc eisiau bywyd dinesig roedden nhw'n mynd i Lundain.
"Ond o ran perthynas Caerdydd a gweddill Cymru mae hwnna yn gallu bod yn fwy problematic, achos os ydi'r holl bobl ifanc Cymraeg ei hiaith yn setlo yng Nghaerdydd... lle mae hynny'n gadael gweddill Cymru?
"Maen nhw wedi gadael eu hardaloedd lleol i fynd i Gaerdydd - a dwi ddim yn gweld unrhyw fai ar y bobl yma achos dyna le mae'r gwaith iddyn nhw - felly tra bo' ni'n dathlu yng Nghaerdydd rhaid i ni beidio anghofio gweddill y wlad.
"Roedd llawer eisiau gwneud Aberystwyth yn brifddinas a dwi'n meddwl bod hynna'n gneud lot o sense achos mae o hanner ffordd, a'r un mor anghyfleus i'w gyrraedd o bob rhan o Gymru, ac mae gen ti'r brifysgol a'r Llyfrgell Genedlaethol, Cyngor Llyfrau, llawer o sefydliadau Cymreig yna."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.